Menter a Busnes
Podlediadau Menter a Busnes | Menter a Busnes Podcasts
info_outline
Healthy Bees Academy - Dr Cecilia Costa
04/06/2023
Healthy Bees Academy - Dr Cecilia Costa
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a
/episode/index/show/65e9cd12-8df8-44b0-a088-e979a5526372/id/26464947
info_outline
Healthy Bees Academy - Mark McLoughlin
04/06/2023
Healthy Bees Academy - Mark McLoughlin
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a Helo a chroeso i'r podlediad hwn sy'n rhan o fodiwlau hyfforddi Iechyd Gwenyn a ariennir trwy Gynllun Gwenyn Iach 2030. Lynfa Davies yw fy enw ac yn y bennod yma fe fydda i’n siarad gyda Mark McLaughlin o'r Uned Wenyn Genedlaethol i drafod eu gwaith. Diolch am ymuno â ni heddiw Mark a chroeso i'n podlediad. Efallai y gallech chi ddechrau drwy gyflwyno eich hun a dweud ychydig wrthym am yr Uned Wenyn Genedlaethol (NBU). Helo Lynfa, a diolch am fy ngwahodd. Ymunais â'r Uned Wenyn Genedlaethol yn 2015 fel Arolygydd Gwenyn Tymhorol yn gweithio’n bennaf yng Nglannau Mersi a Swydd Gaer. Cefais fy mhenodi'n Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol ar gyfer gogledd orllewin Lloegr ar ddechrau 2019. Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn rhan o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, fel Arolygydd dw i’n gyfrifol am ganfod plâu a chlefydau y gwyddom amdanyn nhw yng Nghymru a Lloegr ac am ddelio â nhw. Rhennir Lloegr yn saith rhanbarth, pob un dan arweiniad Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol, Cymru yw'r wythfed rhanbarth, unwaith eto dan arweiniad Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol. Ar hyn o bryd mae 53 o swyddi Arolygydd Gwenyn Tymhorol drwy Gymru a Lloegr,. Felly, eich rôl chi Mark, yw'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol ar gyfer gogledd orllewin Lloegr. Allwch chi ddweud wrthym ni beth mae hyn yn ei olygu a sôn ychydig hefyd am waith yr Arolygwyr Gwenyn Tymhorol sy'n gweithio gyda chi? Gallaf siŵr. Rwy’n rheolwr rhanbarthol yn ogystal ag arolygydd maes ymarferol. Rwy'n delio â materion Adnoddau Dynol, hyfforddiant, cyllid a rheoli staff. Yn ogystal â rhoi arweiniad ynglŷn â blaenoriaethau a thasgau gweithredol, mae gen i gyfrifoldebau strategol eraill o fewn yr NBU hefyd. Neilltuir 10 cilomedr o sgwariau OS i’r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol sydd wedyn yn dod yn ardal dan eu cyfrifoldeb. Maen nhw’n cysylltu â gwenynwyr ar y rhestr arolygu gan yr Uned Wenyn Genedlaethol. Y prif ffocws yw clefydau a phlâu y gwyddom amdanyn nhw fel y'u nodir gan ddeddfwriaeth ond maen nhw hefyd yn cynnig cyngor ar amrywiaeth eang o faterion cadw gwenyn yn ystod arolygiadau. Mae arolygwyr hefyd yn rhoi sgyrsiau i grwpiau cadw gwenyn ac yn cymryd samplau i’w dadansoddi yn y labordy pan fo angen. Does dim digon o arolygwyr i ymweld â phob gwenynwr yn flynyddol, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu. Fodd bynnag, rydyn ni’n ymateb i alwadau pan fydd gan wenynwyr bryderon ynglŷn â chlefydau neu blâu egsotig. Mae'n eithaf diddorol deall sut rydych chi'n blaenoriaethu eich gwaith, oherwydd mae gan rai rhanbarthau fwy o achosion o'r clefydau y gwyddom amdanyn nhw. Felly, beth mae'r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol yn ei wneud yn y rhanbarthau hynny o gymharu â'r Arolygwyr Gwenyn sy'n brysur iawn yn sgil yr achosion? Wel, mae'r rhestr maen nhw'n ei chael yn seiliedig ar risg. Felly, os bydd achos o glefyd, mae'n creu rhestr arolygu ehangach fyth. Fodd bynnag, er y gallai nifer yr achosion o glefyd fod yn isel mewn rhai ardaloedd, mae dyletswydd arnom o hyd i sgrinio am glefydau, oherwydd mae enghreifftiau o ardaloedd nad ydym wedi ymweld â nhw neu ardaloedd sy'n risg isel lle’r ydym wedi canfod clefydau mewn arolygiadau blaenoriaeth isel. Iawn, felly ydi'r Arolygwyr Gwenyn yn symud o gwmpas i gefnogi eu cydweithwyr pan fydd achosion yn codi? Ydym, rydyn ni’n annog cydweithio traws-ranbarthol. Er enghraifft, yn y gogledd, fy rhanbarth i, a'r gogledd ddwyrain mae cydweithio da iawn rhyngom gydag arolygwyr yn y gogledd orllewin yn cynorthwyo'r gogledd ddwyrain ac i'r gwrthwyneb. Rydyn ni hefyd yn helpu ein gilydd gyda digwyddiadau oherwydd arbedion maint, felly, yn hytrach na chynnal rhai digwyddiadau unigol ar gyfer y gogledd orllewin ac yna dyblygu digwyddiadau unigol ar gyfer y gogledd ddwyrain byddwn yn eu cyfuno ac yn cynnal un digwyddiad. Dim ond am resymau arbedion maint fel y dywedais i. Ia, mae hynny'n gwneud synnwyr a dw i'n meddwl mai rhai o'r digwyddiadau yma y bydd llawer o wenynwyr yn gyfarwydd â nhw a hefyd yn ddiolchgar iawn amdanyn nhw. Ydi hynny'n rhywbeth rydych chi'n bwriadu parhau ei wneud a gwneud mwy ohono yn y dyfodol? Ydi. Wel, y llynedd, yn y gogledd orllewin, fe wnaethon ni gynnal dau ddiwrnod Iechyd Gwenyn fel ymarfer ar y cyd â'r gogledd ddwyrain. Fe wnaethon ni hefyd gynnal digwyddiad olrhain y Gacynen Asia ar gyfer gwenynwyr Swydd Efrog ac, fel y dywedais o'r blaen, fe wnaethon ni gynnal Fforwm rhanbarthol ar gyfer gogledd Lloegr gyfan, ac roedd hwnnw'n ddigwyddiad ar y cyd hefyd. Eleni rydyn ni wedi nodi dyddiadau ar gyfer dau ddiwrnod Iechyd Gwenyn ar gyfer y gogledd orllewin, felly nes eu bod wedi'u cadarnhau, alla i ddim dweud yn bendant y byddan nhw’n cael eu cynnal gan fod yn rhaid i ni ddatrys materion presenoldeb a lleoliadau. Ond rydyn ni'n ceisio cynnal o leiaf dau'r flwyddyn. Ia, ac yn sicr mae yna rai yn ein hardal ni hefyd ac mae gwenynwyr yn wirioneddol werthfawrogi'r cyfle i allu cael golwg ar rai crwybrau wedi’u heffeithio gan glefydau na fyddai cyfle iddyn nhw eu gweld fel arfer. Felly, Mark, dw i’n yn deall eich bod chi hefyd yn rhan o’r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel i fonitro plâu a chlefydau egsotig. Felly, pa rai yw'r plâu a'r clefydau egsotig rydych chi'n poeni amdanyn nhw a pha mor debygol ydyn nhw o ddod i’r DU? Mae’r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel yn anelu at ganfod plâu egsotig yn gynnar sef, gwiddon Tropilaelaps a chwilen fach y cwch. Mae'n anodd dweud yn bendant pa mor debygol ydyn nhw o gael eu cyflwyno i'r DU ond yn sicr mae'n risg uchel ac yn un sy’n cael ei chymryd o ddifrif. Felly, mae'n bwysig bod yn wyliadwrus a sicrhau bod gwenynwyr yn rhoi gwybod i’r Uned Wenyn Genedlaethol am unrhyw beth y maen nhw'n ei feddwl sy’n amheus. Mae chwilen fach y cwch yn yr Eidal ar hyn o bryd, ond nid yw Tropilaelaps yn Ewrop hyd y gwyddom. Mae symudiadau pobl a nwyddau yn gallu cynnig llwybr teithio, felly mae gennym Wenynfeydd Sentinel ger porthladdoedd a phwyntiau risg eraill. Er hynny, mae enghreifftiau o risg yn bodoli. Yn 2004, cafwyd hyd i chwilen fach y cwch ym Mhortiwgal mewn cyflenwad o frenhinoedd a chewyll wedi'u mewnforio. Fe'u dinistriwyd gan y Gwasanaeth Tollau cyn iddyn nhw gael cyfle i gyrraedd pen eu taith. Yma yn y DU, rydyn ni weithiau'n cael ein rhybuddio am heidiau sy'n cyrraedd porthladdoedd ar longau. Bu un digwyddiad o'r fath ym mis Mai 2022, pan gafwyd hyd i nyth o wenyn Asiaidd, rhai yn dal yn fyw, ar long gynwysyddion oedd wedi teithio o Asia. Y tro hwn, ni ddarganfuwyd gwiddon Tropilaelaps yn y sampl a anfonwyd i'r labordy ond mae'n pwysleisio’r ffaith bod y risgiau'n rhai go iawn. Waw, mae’n swnio'n anghrediniol y byddai haid o wenyn yn cael eu trosglwyddo yn y ffordd yna. Wel, Apis florea oedden nhw a dydyn nhw ddim yn creu nythod. Yr hyn wnaethon nhw oedd adeiladu crwybr ar ochr llong cynwysyddion ac fe gawson ni wybod yn ddiweddarach. Yn y pendraw, fe aethon ni i gael rhai samplau oherwydd i ddechrau roedden nhw'n meddwl mai haid o'r DU oedd wedi mynd ar y llong tra oedd hi yn y Porthladd. Ond wrth archwilio'n agosach, gwelsom eu bod yn dod o India lle mae Tropilaelaps yn bodoli. Mae hynny'n hollol anhygoel, yn tydi? Nid dyma'r unig un chwaith. Cysylltodd un o'r cymdeithasau a oedd wedi cael gwybod am Gapten llong oedd wedi cysylltu ag un o'r cymdeithasau dros y ffôn wrth fynd i mewn i un o'r porthladdoedd yn Lloegr, a dywedon nhw fod yna haid o wenyn. Meddyliodd y gymdeithas mai haid o wenyn y DU oedd rywsut wedi mynd ar y llong oedd yno ond wnaethon nhw ddim dod i’r golwg felly chawson ni byth wybod beth oedden nhw. Waw, mae hynny'n risg go iawn yn tydi? Mae'n risg go iawn, wyddoch chi, rhaid i ni fod yn wyliadwrus oherwydd dychmygwch, mae yna lawer o longau yn dod i mewn a wyddoch chi, llongau cynwysyddion o wledydd eraill, sy’n amlwg yn risg gan eu bod yn gallu dod â rhywogaethau ymledol neu hyd yn oed blâu egsotig y gwyddom amdanyn nhw. Ia, a chwilen fach y cwch fyddai'r un sydd fwyaf tebygol o gyrraedd y DU? Ydi hynny'n gywir ai peidio? Wel, mae fel unrhyw beth arall yn tydi, os ydyn ni'n mentro dweud yn bendant mai chwilen fach y cwch yw'r mwyaf tebygol, rydyn ni’n temtio ffawd a bod Tropliaelaps yn dod i mewn i’r wlad. Fel yr ydyn ni newydd ddweud, mae plâu egsotig yn cyrraedd ar longau. Mae angen mwy o wybodaeth ynghylch Tropilaelaps. Maen nhw'n credu nad yw Tropilaelaps yn gallu bwydo ar wenyn llawn dwf ond maen nhw'n symud i ardaloedd oerach yn Asia lle maen nhw’n cael seibiant o ran dodwy wyau, er mae’n rhaid cadarnhau hynny. Mae angen gwaith pellach dw i'n credu, i ddarganfod a yw’r gwiddon yn esblygu mewn unrhyw ffordd fel eu bod yn gallu dechrau bwydo ar y gwenyn llawn dwf. Eto, dim ond dyfalu ydw i. Dw i’n gwybod bod gan Dr Samuel Ramsey ddarlith ar YouTube i'r perwyl hwnnw, lle mae'n rhoi darlith dda yn egluro lledaeniad Tropilaelaps yn Asia. Ia, a dw i'n meddwl ei bod hi'n werth dweud wrth ein gwrandawyr, sydd efallai ddim yn gyfarwydd â Tropilaelaps. Gwiddonyn bach ydi o sy'n debyg iawn i'r gwiddonyn Varroa mewn sawl ffordd. Mae ganddo gylch bywyd tebyg ac ar hyn o bryd dydi o ddim yn y DU, felly yn bendant mae’n un nad ydyn ni ei eisiau yma. Yn bendant. Efallai y byddwn ni'n dod yn ôl i siarad am rai o'r plâu egsotig a allai fod o risg i ni ond cyn i ni wneud hynny efallai y gallech chi siarad am y Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel y mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn ei chyflwyno a sut y gall gwenynwyr gymryd rhan ynddi? Wel, mae gennym ni ddwy raglen Gwenynfeydd Sentinel sy’n cael eu cynnal ochr yn ochr. Y gyntaf yw'r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel Wirfoddol lle mae gwenynwyr yn archwilio i weld a oes plâu egsotig yn ogystal ag anfon samplau i'r labordy i'w dadansoddi ddwywaith y flwyddyn. Maen nhw'n cael popeth sydd ei angen arnyn nhw felly does dim cost i'r gwenynwr. Mae'r samplau fel arfer yn ddarnau mân o’r driniaeth Varroa neu o lawr solet y cwch. Maen nhw hefyd yn cael cyflenwad o drapiau chwilen fach y cwch. Ar hyn o bryd mae gennym 130 o Wenynfeydd Sentinel Gwirfoddol ar draws Cymru a Lloegr ac yn ystod tymor 2022-2023, anfonwyd 157 o samplau i'w dadansoddi. Ein nod yw cael o leiaf 15 o Wenynfeydd Sentinel Gwirfoddol ym mhob un o'r wyth rhanbarth. Yna mae gennym yr Uwch Raglen Gwenynfeydd Sentinel ac mae’r Arolygydd Gwenyn yn ymweld â nhw deirgwaith yn ystod y tymor i archwilio rhag ofn bod plâu egsotig ac i gymryd samplau. Fel arfer, lleolir Uwch Wenynfeydd Sentinel ger y pwyntiau risg uchaf fel porthladdoedd ac un o’r meini prawf pwysig ar gyfer dewis yw mynediad, rhag ofn bod y gwenynwr ddim ar gael. Yn aml gwneir trefniadau i ganiatáu i arolygwyr gael mynediad heb fod angen i'r gwenynwr fod yn bresennol. Os oes gan wenynwr ddiddordeb mewn cymryd rhan, dylai gysylltu â'r Arolygydd Gwenyn Tymhorol neu Ranbarthol i drafod ymhellach. Felly, gyda'r Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol, sawl gwaith y flwyddyn ydych chi'n disgwyl i'r gwenynwr anfon mewn samplau? Wel, o leiaf dau sampl. Dau sampl y tymor yw'r targed. Felly, ar gyfer y Gwenynfeydd Sentinel Gwirfoddol, byddem yn gofyn am sampl tua mis Mehefin, ym mis Mehefin, a hefyd ym mis Medi. Ac, ydyn nhw'n llythrennol ddim ond yn gorfod sgubo beth sydd ar lawr y cwch gwenyn, os ydyn nhw ar lawr solet, neu ddim ond casglu beth sydd ar y darn Varroa ? Ia. Mae'n broses gymharol syml ac mae yna amlenni rhagdaledig i anfon y samplau yma i'r labordy, ac yna unwaith y bydd y labordy yn eu derbyn, bydd y labordy wedyn yn archwilio'r samplau hynny hyd yn oed i lefel microsgopig i chwilio am unrhyw dystiolaeth o blâu egsotig. Felly, gallai fod yn wyau neu’n ddarnau o goes neu ddarnau o antena, unrhyw beth a fyddai'n dangos bod risg o bla egsotig neu fod pla egsotig yn bresennol. Pe bai risg, byddem wedyn yn cael ein rhybuddio a byddem yn gorfodi camau i atal gweithgareddau a byddem yn ail-archwilio'r wenynfa. Felly, Mark, a oes angen i wenynwyr allu adnabod unrhyw beth eu hunain neu ddim ond sgubo'r malurion oddi ar y llawr neu oddi ar y darn Varroa a’u hanfon? Wel, ia. Mae'r malurion yn bwysig iawn gan eu bod nhw’n cael eu dadansoddi yn y labordy i lefel microsgopig. Felly, mae hynny'n waith pwysig iawn gan fod hynny wedyn yn ychwanegu haen arall o archwilio, os mynnwch chi, at y broses samplo go iawn. Ond mae angen i'r gwenynwyr wybod beth yw'r arwyddion os oes chwilen fach y cwch a Tropilaelaps mewn gwirionedd yn y gytref, lle i edrych a beth i chwilio amdano. Pan fyddan nhw’n cael yr offer am y tro cyntaf, dylai Arolygwr Gwenyn Tymhorol fynd i'r wenynfa gyda nhw ac egluro’n union beth i chwilio amdano a sut i archwilio am blâu egsotig. Ydi hi’n bosibl i unrhyw wenynwr wirfoddoli eu gwasanaethau neu ydych chi’n rhyw fath o ddewis pobl? Wel, cyfuniad o'r ddau mewn gwirionedd. Os oes gennym ni ardal lle mae risg o blâu egsotig, er enghraifft, porthladdoedd. Dywedwch fod gennym borthladd, a bod 'na ddim Gwenynfeydd Sentinel wrth ymyl y porthladd hwnnw, neu fod gwenynwyr y Gwenynfeydd Sentinel sy’n anfon samplau, yn penderfynu'n sydyn na allan nhw fod yn rhan o’r cynllun, eu bod nhw am roi'r gorau i gadw gwenyn neu rywbeth. Byddwn ni, a'r arolygydd lleol yn holi o gwmpas ac os bydd unrhyw leoliadau addas lle mae gwenynfeydd, wyddoch chi, byddwn yn gofyn i bobl os hoffan nhw gymryd rhan. Gall gwenynwyr gysylltu â ni a chynnig eu gwasanaethau ond mae'n rhaid i ni dargedu ardaloedd a gallwn ni ddim cael gormod o Wenynfeydd Sentinel Gwirfoddol. Y cyfan rydyn ni'n ei wneud, ac mae'r labordy’n ei wneud, yw anfon pecynnau allan a dadansoddi. Mae cydbwysedd rhwng y niferoedd ac effeithlonrwydd y cynllun. Felly, rydyn ni'n croesawu pobl sydd gallai fod yn rhy agos at Wenynfa Sentinel Wirfoddol arall. Felly, mae'n rhaid i ni bwyso a mesur y sefyllfa. Ia wrth gwrs. Nawr, o'n profiadau hyd yma, mae'n ymddangos mai'r Gacynen Asia yw ein bygythiad mwyaf uniongyrchol. Efallai y gallech chi egluro i'n gwrandawyr pam fod y Gacynen Asia yn fygythiad i'n gwenyn, a beth all gwenynwyr ei wneud? Wel, mae'n werth sôn nad yw’r Rhaglen Gwenynfeydd Sentinel yn targedu’r Gacynen Asia yn benodol ond mae rhai gwenynwyr sy'n cymryd rhan yn monitro ei phresenoldeb. Mae’r Gacynen Asia yn rhywogaeth ymledol yn hytrach na phla. Mae'n targedu gwenyn mêl a phryfed brodorol eraill i fwydo'r larfa. Yn ogystal â lladd gwenyn unigol, os yw’r Gacynen Asia yn bresennol mewn gwenynfa gall amharu ar y ffordd mae’r gwenyn yn chwilio am fwyd nes bod y gytref yn diflannu. Dylai gwenynwyr fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod os gwelan nhw’r rhain drwy’r ap Asian Hornet/Cacynen Asia, y gellir ei lawrlwytho am ddim. Os ydyn nhw mewn sefyllfa i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd byddai hynny'n wych hefyd. Rydyn ni’n argymell chwilio am y Gacynen Asia yn y gwenynfeydd, ar eiddew neu ffrwythau sydd wedi disgyn hefyd. Yn ddiddorol, yn rhan olaf 2022 doedd hi ddim yn ymddangos bod gennym lawer o Gacwn Asia eleni, y llynedd mae'n ddrwg gen i, sy'n dipyn o syndod i mi wrth edrych ar brofiadau Jersey lle mae’n ymddangos bod llawer iawn o nythod ac maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol i gael gwared ar y rheini hefyd. Pam ydych chi'n meddwl na wnaeth y Gacynen Asia groesi i'r DU? Wel, mae dadansoddiad o nyth Rayleigh yn awgrymu nad oedd y frenhines yn ferch i unrhyw un o'r breninesau sydd wedi eu gweld yn y blynyddoedd blaenorol yma. Felly mae'n debyg iddi gael ei chario drosodd o Ffrainc. Ond mae Jersey gymaint yn nes at Ffrainc nag ydyn ni. Dw i wedi bod i Jersey ac maen nhw'n dweud eu bod nhw'n dod o hyd i’r Gacynen Asia ar y cychod pysgota ac maen nhw hyd yn oed wedi gweld rhai’n gorffwys ar frigiadau creigiog, felly, maen nhw'n gallu hedfan o Ffrainc i Jersey. Yn achos y DU rydyn ni’n amau bod y Gacynen Asia, ar adegau, wedi cael ei chario drosodd gan wyntoedd deheuol, mae'n debyg bod Dungeness yn un o'r achosion hynny, tra mai gwenyn gwryw oedden nhw mewn gwirionedd a gafodd eu cario drosodd. Ond, mae pellter rhyngom ni a Ffrainc a dw i'n meddwl eu bod nhw wir angen rhyw fath o ffordd i’w cario drosodd. Pam roedd cyn lleied y llynedd, dw i ddim yn gwybod, dydyn ni ddim yn gwybod. Rydyn ni ond yn gobeithio ein bod ni wedi dod o hyd i bob un oedd yno. Ydw, wrth gwrs, dim ond hyn a hyn o wybodaeth sy gennym ni. A beth am chwilod bach y cwch a Tropilaelaps, pam eu bod nhw’n achosi'r fath bryder i ni? Wel, gall cytrefi lle mae nifer fawr o chwilod bach y cwch yn bresennol gael eu dinistrio neu gallan nhw hedfan i ffwrdd i rywle arall ac mae'r chwilod yn bwyta'r mag a'r storfeydd, gan ysgarthu yn y mêl, ac achosi iddo eplesu. Felly, mae’n tarfu llawer ar y gytref ac ar y gwenynwr ei hun. Mae cytrefi gwannach yn arbennig o agored i niwed, felly gallai’r cnewyllyn neu broses baru’r frenhines gael eu heffeithio'n ddifrifol. Gallai mêl a’r llofftydd mêl cyn eu tynnu fod mewn perygl hefyd. Mae chwilen fach y cwch yn gallu effeithio ar boblogaethau gwenyn mêl gwyllt a chacwn hefyd. Felly, nid gwenyn mêl yn unig yr ydyn ni’n poeni amdanyn nhw. Mae gwiddon tropilaelaps yn bryder mawr gan eu bod nhw’n lledaenu clefydau ac yn gwanhau cytrefi, yn debyg iawn i effeithiau pla Varroa, ond mae ganddyn nhw’r potensial i fod yn fygythiad mwy fyth, gan eu bod nhw’n atgynhyrchu'n gyflym. Gallen nhw hefyd gael effaith ddifrifol ar gytrefi gwyllt, yn union fel chwilen fach y cwch. Rydych chi wedi gwneud pwynt diddorol, am eu heffaith bosibl ar gytrefi gwyllt a hefyd eu heffaith ar rai o'n rhywogaethau gwenyn gwyllt hefyd. Rydyn ni’n tueddu i ganolbwyntio fwyaf ar wenyn mêl ond mae'n frawychus meddwl y gallen nhw hefyd gael effaith ddifrifol ar rai o'n rhywogaethau gwenyn gwyllt eraill. Ia, hynny yw, dyna pam mae dod o hyd i’r plâu yma’n gynnar mor bwysig oherwydd unwaith maen nhw'n mynd i mewn i’r ardaloedd, wyddoch chi, maen nhw'n dod i gysylltiad â’r gwenyn ffyrnig a'r heidiau sydd wedi dianc o’r cychod a mynd i mewn i lofftydd neu simneiau pobl neu pa le bynnag, ac mae'n anodd iawn wedyn i ni allu eu rheoli a chael gwared arnyn nhw. Fe allwn ni fynd at y gwenynwyr sydd wedi'u cofrestru ar BeeBase ond efallai bod plâu niferus mewn cytrefi gwyllt na wyddon ni amdanyn nhw. Felly, dyma beth yw pwrpas yr holl gynllun, ceisio eu cael yn gynnar a cheisio delio â nhw cyn iddyn nhw gael cyfle i ddosbarthu eu hunain yn ehangach. Ia wrth gwrs. Nawr rydyn ni i gyd yn gwybod am freninesau sy'n cael eu mewnforio i'r DU ac rydyn ni wedi siarad ychydig am y posibilrwydd fod heidiau’n dod i mewn ar longau, oes yna gynhyrchion cychod gwenyn eraill sy'n cael eu mewnforio a allai hefyd achosi risg i'n gwenyn drwy gludo rhai o'r plâu a'r clefydau yma? Wel mae angen tystysgrif iechyd ar fewnforion mêl ac mae achosion mynych o fewnforio mêl yn anghyfreithlon gyda'r llwythi’n cael eu hatal gan y Gwasanaeth Tollau. Ar rai achlysuron mae’r Gwasanaeth Tollau wedi atal mêl oedd yn dal yn y crwybr, weithiau gyda gwenyn yn dal i hedfan o amgylch y cerbyd. Yn amlwg iawn, mae’r math yma o beth yn risg o safbwynt clefydau a phlâu egsotig i'r DU. Mae'n werth nodi nad yw mewnforio crwybr cŵyr yn cael ei ganiatáu gan ei fod yn gallu cario afiechyd. Caniateir mewnforio cŵyr gwenyn yn fasnachol, ond mae angen hysbysu’r awdurdodau swyddogol ynghylch mewnforion o'r fath ymlaen llaw, yn ogystal â rhoi manylion am sut mae'r mêl yn cael ei brosesu ac ati. Mae bwydo mêl sy’n dod o ffynhonnell gyfreithiol i wenyn mêl hefyd yn risg oherwydd gall gynnwys pathogenau gwenyn. Weithiau, mae’r cyhoedd yn bwydo mêl...
/episode/index/show/65e9cd12-8df8-44b0-a088-e979a5526372/id/26464941
info_outline
Healthy Bees Academy - Professor Peter Graystock and Monika Yordanova
04/06/2023
Healthy Bees Academy - Professor Peter Graystock and Monika Yordanova
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a Helo a chroeso i’r podlediad sy’n rhan o’r modiwlau hyfforddiant Iechyd Gwenyn a ariennir drwy Gynllun Gwenyn Iach, 2030. Fy enw i yw Lynfa Davies ac yn y Bennod yma byddaf yn sgwrsio â’r Athro Peter Graystock a Monika Yordanova o Goleg Imperial Llundain i drafod eu hymchwil i’r ffactorau sy’n gwneud gwenyn yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau. Diolch am ymuno â ni heddiw Peter a Monika a chroeso i’n podlediad. Peter, hoffech chi ddechrau drwy gyflwyno eich hun a dweud rhywfaint am eich gwaith a gwaith y tîm yng Ngholeg Imperial Llundain. Ie iawn, felly, rwy’n ymchwilydd ac yn ddarlithydd yng Nghampws Silwood Park Coleg Imperial Llundain, ac mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cymunedau cymhleth o ficrobau a sut mae’r rheini, yn eu tro, yn dylanwadu ar gymunedau hyd yn oed mwy cymhleth, sef peillwyr a’u hiechyd. Felly, yn fy labordy rydyn ni’n edrych ar y mathau o ficrobau sydd i’w gweld mewn gwenyn, sut gwnaethon nhw gyrraedd y gwenyn, a beth yw swyddogaeth y microbau hyn? Ydyn nhw’n cael effaith bositif neu effaith negyddol ar iechyd y gwenyn dan sylw? Felly, drwy ofyn y cwestiynau hyn, mae fy ngrŵp yn tueddu i archwilio pethau fel y dynameg microbaidd rhwng poblogaethau o wenyn. Maen nhw’n nodi’r microbau penodol sy’n ymddangos eu bod yn dylanwadu ar iechyd gwenyn lle mae straenachoswr ychwanegol fel plaleiddiaid neu rywbeth tebyg. Ac yna, yn y bôn, rydyn ni’n dod â’r holl wybodaeth ynghyd i geisio datblygu strategaethau er mwyn helpu i ddiogelu iechyd peillwyr gan ddefnyddio’r hyn rydyn ni’n ei wybod am yr ecoleg ficrobaidd. Mae hynny’n eithaf ddiddorol oherwydd mae eich gwaith yn ymwneud â mwy na gwenyn mêl yn unig, yn dydy? Wel, mae gennyn ni ddiddordeb penodol mewn gwenyn mêl ar gyfer y podlediad hwn, ond mae’n ddiddorol nodi bod eich gwaith yn ymdrin â rhywogaethau gwenyn gwyllt hefyd. Ie yn bendant, felly roedd fy PhD yn edrych yn benodol ar gacwn, neu bumblebees, sy’n cael eu rheoli. Felly, mae’r diwydiant cacwn sy’n cael eu rheoli yn un mawr, yn enwedig ym Mhrydain. Rydyn ni’n mewnforio tua 70 000 o gacwn i Brydain bob blwyddyn. Felly, dechreuais i astudio gwenyn sy’n cael eu rheoli ar lefel rhywogaethau gwyllt felly mae fy ngwaith ymchwil wedi parhau fel hyn. Rydyn ni’n edrych ar wenyn fel cymuned ac mae’r gymuned honno yn cynnwys rhai gwenyn gwyllt a rhai gwenyn sy’n cael eu rheoli a’r rhyngweithio rhwng y ddau. Gwych, felly Monika, fyddech chi’n hoffi cyflwyno eich hun ac esbonio beth rydych chi’n ei astudio ar gyfer eich PhD, ac yn benodol, rwy’n meddwl byddai ein gwrandwyr yn hoffi gwybod sut mae eich PhD yn cael ei ariannu. Hi Lynfa, diolch i chi am y cyfle i gymryd rhan yn eich podlediad. Rwy’n astudio am PhD yn Silwood Park, Coleg Imperial Llundain, ac rwy’n edrych ar bresenoldeb pathogenau mewn tirweddau naturiol, ac mewn tirweddau ehangach, ond rwy hefyd yn canolbwyntio’n benodol ar glefyd Ewropeaidd y gwenyn, neu EFB, a’r ffordd gall ffactorau gwahanol helpu’r clefyd i ddatblygu mewn cytref. Felly, gan fod EFB yn glefyd dinistriol ym maes gwenyna mae’n addas iawn i gylch gwaith y corff sy’n fy ariannu, sef Bee Disease Insurance a CB Dennis Trust. Mae EFB ac AFB, clefyd Americanaidd y gwenyn, yn glefydau hysbysadwy yn gyfreithiol, felly, yn aml bydd yn rhaid i wenynwyr ddifa’r cwch mae’r clefyd wedi effeithio arno, ynghyd â’r holl offer cysylltiedig, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu i gychod eraill. Felly, mae Bee Disease Insurance yn gwmni yng Nghymru a Lloegr sy’n cael ei redeg gan wenynwyr ac mae’n cynnig yswiriant ar gyfer prynu offer gwenyna newydd yn lle unrhyw offer sydd wedi gorfod cael eu dinistrio oherwydd y clefydau hyn. Ymddiriedolaeth yw CB Dennis ar y llaw arall, ac mae’n ariannu gwaith ymchwil sy’n cyd-fynd â’i nod o hyrwyddo gwyddoniaeth sy’n gysylltiedig â gwenyn a’u hiechyd, a gwenyna ym Mhrydain yn gyffredinol, ond hefyd yn fwy eang yn Ewrop. Mae’n ariannu rhai prosiectau yn Ewrop hefyd. Mae gan y ddau gorff ethos cryf o gefnogi ymchwil sydd wedi’i anelu at wella arferion cadw gwenyn ac iechyd gwenyn yn gyffredinol. Dyna pam maen nhw’n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sy’n ceisio cyflawni’r nodau hynny, gan gynnwys fy PhD. O, mae’n wych clywed hynny ac mae’n braf clywed bod rhywfaint o arian gwenynwyr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer PhD mor werth chweil. Felly, rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed canlyniadau eich gwaith. O, diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Felly, mae eich gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar glefyd Ewropeaidd y gwenyn. Felly, pam mae’r clefyd hwn mor ddiddorol i chi, a beth rydych chi’n credu bydd eich gwaith ymchwil yn ei gyflawni? Wel, rwy’n siŵr bydd eich gwrandawyr i gyd yn gwybod pa mor ddinistriol yw EFB, ac fel gwenynwr fy hun, rwy’n gallu cydymdeimlo â phawb sydd wedi dioddef oherwydd y clefyd hwn. Mae’r symptomau yn gwaethygu mor gyflym ac yn gallu lledaenu ar draws y wenynfa gyfan os na fyddwch chi’n gweithredu ar frys. Ond, y broblem ar hyn o bryd yw mai ychydig iawn o bethau gallwn ni eu gwneud os byddwn ni’n sylwi ar y clefyd ac mae’r holl bethau hyn yn amharu’n ddifrifol ar y gwenyn. Felly, mewn rhai achosion prin, efallai y bydden ni’n defnyddio gwrthfiotigau neu’n defnyddio dull ysgwyd yr haid, ond yn aml mae angen llosgi pob cwch a’r holl offer. Ar yr un pryd, er bod effeithiau’r clefyd mor ddifrifol, rydyn ni’n gwybod fod y pathogen yn gallu ymddangos yn naturiol mewn cychod ac aros ynghwsg heb achosi unrhyw symptomau o gwbl. Felly, mae hyn yn ddiddorol iawn i mi. Rwy’n awyddus i wybod beth yw’r ffactorau neu beth sy’n achosi i’r clefyd ddigwydd, ac os feddyliwn ni am y peth o’n safbwynt ni, mae gennyn ni system imiwnedd ac mae gan bob organeb system imiwnedd, ac os bydd y system yn cael ei gwanhau gall olygu ein bod yn llawer mwy agored i heintiau penodol. Un enghraifft dda mewn pobl yw’r eryr neu ‘shingles’, lle mae’r pathogen yn aros ynghwsg nes bod yr organeb letyol wedi gwanhau. Ac mae’r un egwyddor yn wir yn achos y gytref. Felly, rydyn ni’n gwybod os oes straenachoswyr penodol, fel plaleiddiaid, eu bod nhw’n gallu amharu ar iechyd y gytref a gall hyn arwain at ddechreuad clefydau. Ac i’r gwrthwyneb, gallwn ni hefyd edrych ar bethau sy’n gwella iechyd y gwenyn ac yn gwella eu hymwrthedd i’r straenachoswyr hyn. Felly, mae gen i brosiectau sy’n edrych ar y ffactorau sy’n ysgogi EFB yn y maes a hefyd yn y labordy. Mae hynna’n ddiddorol iawn Monika, a hoffwn i fynd nôl at bwynt gwnaethoch chi ei godi am y potensial i EFB fodoli’n naturiol yn ein cychod, sef efallai mai’r straenachoswyr sy’n achosi iddo ledaenu ac amlygu ei hun. Felly, pa dystiolaeth sydd yna mewn gwirionedd, fod EFB yn eang iawn, ac y gallai fod yn bresennol yn y rhan fwyaf o’n cychod, ac mai’r cyfan sydd ei angen yw i’r straenachoswyr hyn wneud iddo ledaenu? Wel, efallai nad yw’n bresennol yn ‘y rhan fwyaf o gychod’, ond yn sicr mae’r clefyd wedi cael ei weld mewn llawer o gychod iach. Ond gan ein bod ni’n profi am bresenoldeb y pathogen rydyn ni’n gwybod nad yw’n bresennol ym mwyafrif helaeth y cychod, ac wrth gwrs mae’r NBU, sef yr Uned Wenyn Genedlaethol, maen nhw hefyd yn archwilio llawer iawn o gychod ar hap. Felly, os byddai’r clefyd yn y rhan fwyaf o gychod bydden ni’n sylwi llawer mwy arno, ond mae wedi cael ei weld mewn cychod iach sydd heb unrhyw symptomau eraill o gwbl. Mae hynna’n ddiddorol iawn, yn anffodus rwy’n siarad o brofiad, ac mae’n dipyn o ddirgelwch ble’n union roedd yr achos oedd gen i wedi tarddu. Felly, mae presenoldeb EFB ar draws Prydain yn eithaf amrywiol ac mae’n ymddangos ei fod yn gyffredin iawn mewn rhai ardaloedd, ond does dim achosion o gwbl mewn ardaloedd eraill. Rwy’n credu bod hyn yn wir am Cumbria a Northumberland, lle dydyn nhw ddim yn gweld EFB ar y cyfan. Felly, ydyn ni’n gwybod beth sy’n wahanol am yr ardaloedd hyn, ac oes yna rhywbeth sy’n achosi iddo fod yn fwy amlwg mewn rhai ardaloedd, neu a oes rhywbeth yn arbennig am rai ardaloedd, ac mae’r ffaith nad oes llawer o achosion yn golygu nad yw’r clefyd yn gallu sefydlu ei hun? Wel, yn anffodus, mae llawer o bethau dydyn ni ddim yn eu gwybod o ran y rhesymau dros batrwm dosbarthiad ehangach EFB. Ond rydyn ni’n gwybod rhai pethau. Felly, rydyn ni’n gwybod fod masnach yn bendant yn cyfrannu rhywfaint at y patrymau rydyn ni’n eu gweld. Felly, gall y fasnach nwyddau gwenyna fod yn ffactor pwysig, ac er bod rheoliadau clir yn cael eu hamlinellu gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd, gall cynnyrch sydd wedi’i halogi â’r pathogen lithro drwy’r rhwyd, gan arwain at achosion mewn rhai ardaloedd lle mae masnach yn fwy tebygol. Ond hyd yn oed ar ôl ystyried hyn, dydy masnach ddim yn cynnig esboniad llawn ar gyfer y patrymau rydyn ni’n eu gweld. Felly, mae ffactorau eraill, fel amrywioldeb y straen, ac rydyn ni’n gwybod fod straeniau penodol yn llawer mwy tebygol o arwain at nifer o achosion. Felly, mae’r mannau lle mae’r straeniau hyn i’w gweld yn fwy tebygol o gael llawer o achosion. Ond yn olaf, mae llawer iawn o bethau dydyn ni ddim yn eu gwybod o hyd a dyna’n rhannol beth rwy’n ceisio rhoi sylw iddo yn fy PhD, oherwydd fel y dywedais, mae yna rai ffactorau ysgogol a allai ysgogi clefydau eraill. Felly, rwy eisiau gweld a oes unrhyw nodweddion yn y dirwedd neu’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio, a allai fod yn ysgogi, neu a allai fod yn achosi i ardaloedd penodol fod yn fwy tebygol o weld achosion o’r clefyd. Ac rydych chi’n codi pwynt diddorol arall fan hyn, sef bod mwy nag un straen o EFB, ydy hynny’n gywir? Ydy. Yn bendant. Felly, oes yna lefelau gwahanol o bathogenedd yn perthyn i’r straeniau gwahanol ac ydy hynny’n esbonio pam mae’n ymddangos bod y broblem yn waeth mewn rhai ardaloedd nag eraill? Ie, mae hynny’n sicr yn ffactor pwysig iawn, ac mae’n ymddangos nad yw rhai straeniau yn firwlaidd iawn o gwbl a gall eraill fod llawer iawn mwy firwlaidd, gan gael effaith llawer mwy difrifol ar lefel y gytref. Mae hynna’n ddiddorol iawn, felly o safbwynt y gwenynwr, mae deall sut mae EFB yn ymddwyn a’r llwybrau trosglwyddo yn hanfodol, ond mae’n debyg nad yw gwenynwyr yn deall hynny’n dda iawn. Felly, Monika, oes gennych chi unrhyw awgrymiadau neu air o gyngor ar gyfer gwenynwyr ar sut i fonitro ar gyfer EFB a’i reoli? Oes yn sicr, a dweud y gwir, mae gan fy noddwyr Bee Disease Insurance Limited, dudalen wych yn cynnwys cyngor ymarferol i wenynwyr ar sut gallan nhw leihau’r risgiau o’r clefyd. Enw’r dudalen yw ‘10 tips for healthy bees’ ac mae’r rhestr yn cynnwys pwyntiau sy’n cael eu cefnogi’n eang gan waith ymchwil, fel peidio â bwydo mêl o gychod eraill i’ch gwenyn. A’r rheswm dros hynny yw oherwydd fod pathogenau fel Melisococcus plutonius, sy’n achosi EFB, ond hefyd pathogenau eraill, yn gallu aros yn hyfyw yn y cynnyrch hyn mewn mêl ac yna achosi clefyd yn y cwch newydd. Ac mae rhagor o gyngor gwych yna hefyd, fel pwysigrwydd arfer safonau hylendid da o amgylch y cychod, glanhau offer cychod yn rheolaidd gan ddefnyddio soda golchi, golchi gwisgoedd gwenyna yn rheolaidd, defnyddio menig tafladwy os yn bosibl, a hefyd peidio â defnyddio hen grwybrau, a newid y fframiau yn eich cychod yn rheolaidd, bob rhyw dair blynedd. A’r rheswm mae hyn mor bwysig yw bod hylendid da yn gallu lleihau’r siawns o ddod i gysylltiad â phathogenau a allai fod yn yr hen offer. Ac mae pethau eraill y gallwn ni eu gwneud. Gallwn ni hefyd leihau, neu gallwn ni geisio lleihau ymddygiad naturiol fel drifftio a dwyn. A’r rheswm pam mae hyn yn ddefnyddiol yw oherwydd gall pathogenau aros ar gyrff gwenyn a hefyd mae gwenyn yn fwy tebygol o ddwyn o gychod gwan, felly mae’n bwysig ceisio lleihau’r math hwn o ymddygiad. Mae rhai o’r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yn Cynnwys trefnu’r cychod mewn ffordd sy’n golygu nad yw’r mynedfeydd yn wynebu ei gilydd, sy’n fwy tebygol o arwain at ddrifftio, ond hefyd gosod rhwystrau ar y mynedfeydd i atal pryfed mawr eraill rhag dod i mewn i’r cychod a cheisio lladrata ohonyn nhw. Ac yn olaf, mae’n hanfodol eich bod chi’n dod yn gyfarwydd ag ymddygiad eich cychod ac yn addysgu eich hun am y materion y gallech chi eu hwynebu er mwyn i chi sylwi arnyn nhw yn fuan. Ac wrth gwrs, mae hyn yn berthnasol nid yn unig i EFB ond i glefydau eraill. Felly, mae’n bwysig cadw llygad ar ymddygiad eich gwenyn, a sylwi os na fydd eich cwch yn ffynnu neu’n cynhyrchu cynifer o weithwyr ag y byddech chi’n ei ddisgwyl fel arfer yn ystod yr adeg o’r tymor pan rydych chi’n cynnal eich archwiliad. Ac efallai, gallech chi hyd yn oed gymharu eich sefyllfa â chychod eraill, a hefyd sylwi a yw patrwm y mag yn edrych yn iach? Mae llawer o bethau y gallwch chi gadw llygad amdanyn nhw ac mae digonedd o gyngor ar gael ar-lein ac yn y rhestr o bethau y dylech chi fod yn sylwi arnyn nhw. Mae’n hollbwysig eich bod chi’n gyfarwydd iawn â symptomau clefydau, yn enwedig clefydau’r gwenyn, oherwydd mae adnabod y clefydau hyn yn gynnar yn allweddol, a gall y symptomau fod yn eithaf annelwig ar y dechrau. Efallai bydd y larfâu wedi afliwio rhywfaint, wedi melynu ychydig, neu bydd perfeddion neu traceau rhai o’r larfâu yn rhy amlwg. Ac os nad ydych yn siŵr, mae’n well cysylltu ag arbenigwyr o’r NBU, a gallan nhw gynnal profion ar eich larfâu ar y safle i dawelu eich meddwl neu ddelio â’r materion yn gyflym i’w hatal rhag lledaenu ymhellach. A dyna pam mae’n syniad da cofrestru eich gwenyn fel eu bod yn cael arolygiad o dro i dro, fel bod rhywun proffesiynol yn gallu chwilio’n rheolaidd am y symptomau annelwig hyn, sy’n gallu bod yn anodd i bobl heb hyfforddiant sylwi arnyn nhw. Diolch am y cyngor gwych yna Monika. Rwy’n meddwl y byddai’n ddoeth i bob un ohonon ni wneud hynny. Un peth sydd o ddiddordeb mawr i mi o ran eich astudiaethau, mae gweithio gyda chlefyd hysbysadwy yn dod â’i broblemau yn amlwg, ac rwy’n siŵr bod rhai heriau o ran gweithio’n ddiogel gyda’r clefyd yma. Felly, efallai y gallech chi esbonio sut byddwch chi’n cynllunio rhai o’ch prosiectau fel nad ydych chi o bosibl yn cyflwyno clefyd hysbysadwy i’r amgylchedd. Ie, mae hwnnw’n gwestiwn da. Wel, mae llawer o reoliadau ynghlwm â gweithio gyda’r clefyd yn y lle cyntaf. Felly, rydyn ni wedi gorfod goresgyn llawer o rwystrau er mwyn gallu cyflawni’r prosiectau hyn yn y lle cyntaf. Mae’n hynod o bwysig sicrhau bod y pathogen yn cael ei gadw i’r cyfleuster Categori Dau yn unig, felly mae’r labordy yn cael ei reoleiddio’n agos iawn, ac mae gennyn ni awtoclaf neu ffwrn aerglos sy’n hawdd iawn ei gyrraedd. Mae awtoclaf yn eich galluogi i sterileiddio unrhyw offer rydych chi’n eu defnyddio, ond hefyd unrhyw ddefnyddiau eraill. Felly, pan fydda i’n gweithio gyda’r pathogen, rwy’n gweithio gydag ef y tu mewn i lwfer microbaidd, ac yna mae’r holl gynnyrch gwastraff ac unrhyw beth rwy’n ei ddefnyddio, wel rwy’n ei roi mewn bag yn syth wedyn cyn i mi hyd yn oed ei daflu, ac mae’r bag hwnnw, rwy’n gallu ei roi yn yr awtoclaf a gwneud yn siŵr fy mod i’n cadw popeth yn gwbl, gwbl ddi-haint. Felly, rhan o’r broses sicrhau diogelwch yw gweithio bob amser yn y lwfer microbaidd, gan gadw pethau ar wahân bob amser, mewn un ardal benodol, er mwyn symud y pathogen cyn lleied â phosibl, a sterileiddio popeth yn drwyadl drwy’r amser. Ie, mae’n swnio fel protocol caeth iawn i weithio gydag ef. Ac, ydych chi’n edrych ar glefydau yn y maes hefyd? A sut allwch chi fonitro ar gyfer y straenachoswyr gwahanol a’u heffeithiau ar glefydau yn y maes? Yn y maes, dydw i ddim o anghenraid yn canolbwyntio ar y straenachoswyr a’r tebygolrwydd bydd clefydau yn datblygu yn y maes. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar bresenoldeb y pathogenau yn y maes yn y lle cyntaf. Felly, gan fy mod i’n mynd i safleoedd lle dydw i ddim o anghenraid yn gwybod a ydw i’n mynd i ddod ar draws y pathogen neu beidio, ac rwy’n profi am ei bresenoldeb yn y maes, mae llai o reoliadau, gan fy mod i’n profi a yw’n bresennol mewn lleoliadau naturiol a dydw i ddim wir yn trin unrhyw beth yn y lleoliadau hynny. Felly gall fod yn sefyllfa ychydig llai anffurfiol ond yn amlwg mae’n bathogen peryglus iawn yn y maes, felly dyna pam rydyn ni’n osgoi gwneud hynny. Ie, yn union. Gwych, wel diolch yn fawr i chi am hynna, a Peter, hoffwn i droi atoch chi nawr, ac wrth i ni ddysgu mwy am glefydau, mae’n dod yn amlwg bod y rhyngweithio rhwng y gwenyn a’u hamgylchedd a’r straenachoswyr yn yr amgylchedd hwnnw yn gallu cael dylanwad enfawr ar ba mor debygol yw’r gwenyn o ddioddef o’r clefydau hynny. Efallai gallech chi esbonio beth mae eich gwaith wedi ei ddangos mewn perthynas â hyn? Ie, iawn. Felly, mae yna ychydig o enghreifftiau o ddylanwad ehangach yr amgylchedd ar iechyd gwenyn neu’r potensial iddyn nhw ddioddef o glefydau. Felly, un o’r rheini, sy’n eithaf diddorol, yw rôl blodau. Felly, mae blodau yn adnodd bwyd sy’n cael ei rannu rhwng gwenyn o’r un cwch a gwenyn o gychod gwahanol, ond hefyd, rhwng rhywogaethau gwahanol o wenyn hefyd. Felly, gan fod llawer o wenyn gwahanol yn rhannu’r un lle bwyta, mae siawns bydd y clefyd yn cael ei drosglwyddo yno. Felly, os gallwch chi ddychmygu mynd i mewn i gaffi prysur, a dim ond tair cwpan goffi sydd yno, ond dydyn nhw erioed wedi cael eu golchi, ac mae’n rhaid i bawb ddefnyddio’r un cwpanau. Byddech chi’n dychymygu y byddai pawb yn gyflym iawn yn rhannu’r un symptomau ffliw a dolur annwyd, a’r math yna o beth, yn gyflym iawn. Fodd bynnag, os byddech chi’n mynd i mewn i’r caffi ac er eu bod nhw’n dal ddim yn gallu golchi eu cwpanau, ac roedd ganddyn nhw 100 o gwpanau, byddai hi’n dal yn bosibl trosglwyddo clefydau rhwng rhai o gwsmeriaid y siop ond i raddau llai na phetaech chi’n rhannu ychydig o gwpanau yn unig. Ac mae’n debyg iawn i’r sefyllfa gyda’r gwenyn, os bydd nifer mawr o wenyn yn rhannu nifer bach o flodau, yna gall clefydau gael eu trosglwyddo rhwng y gwenyn yn eithaf cyflym. Oherwydd, pan fydd gwenynen yn bwydo ar flodyn, gall adael gronynnau trosglwyddadwy o barasitiaid ar y blodyn hwnnw ac yna pan fydd gwenynen arall yn dod i fwydo ar y blodyn gall godi’r parasitiaid. Felly, dydw i ddim yn sôn am gyswllt corfforol uniongyrchol rhwng gwenyn, ond yn hytrach gadael gronynnau trosglwyddadwy ar y blodyn ar ôl i chi fod yno. Felly, os ydych chi mewn tirwedd heb lawer o flodau, rydyn ni’n tueddu i weld bod mwy o achosion o glefydau, fel ar lefel cymunedol, ymhlith peillwyr. Ond, os yw hi’n adeg pan mae llawer o flodau yn yr ardal honno yna mae’n debygol bod llai o glefydau ar draws y gymuned. Ac felly, mae hwn yn faes rydyn ni’n dal i ddechrau dysgu mwy amdano, ac mae Monika yn mynd i fod yn edrych ar hyn rywfaint wrth astudio clefydau’r gwenyn, ond rydyn ni’n dal i drio gweld, os hoffwch chi, beth yw’r prif ffactorau sy’n gyrru’r broses hon o drosglwyddo parasitiaid penodol drwy flodau. Ond y prif bethau rydyn ni’n eu gwybod ar hyn o bryd yw, drwy gael mwy o flodau, rydyn ni wedi lleihau trosglwyddiad, oherwydd rydyn ni’n ehangu nifer y lleoliadau mae’r gwenyn yn ymweld â nhw, yn hytrach na’u bod nhw’n canolbwyntio ar un man. Un nodwedd arall yn ymwneud â’r amgylchedd sy’n gysylltiedig ag iechyd a chlefydau gwenyn, yw’r hinsawdd. Nawr, mae hwn yn faes ymchwil cymharol newydd ac mae’r rhan fwyaf o’r canfyddiadau yn y maes hwn yn gydberthynol. Felly, yn achos un astudiaeth fawr Ewropeaidd roedden ni’n gysylltiedig â hi, gwnaethon ni gymryd gwenyn, gwenyn...
/episode/index/show/65e9cd12-8df8-44b0-a088-e979a5526372/id/26464911
info_outline
Healthy Bees Academy - Stephen Martin Podcast
04/06/2023
Healthy Bees Academy - Stephen Martin Podcast
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a Helo a chroeso i’r podlediad hwn a fydd yn cyfrannu at ein modiwl Hyfforddiant Iechyd Gwenyn ar reoli faroa. Lynfa Davies ydw i ac yn y bennod hon byddaf yn sgwrsio â’r Athro Stephen Martin o Brifysgol Salford am ei waith ar nodweddion ymwrthedd naturiol i faroa ymysg gwenyn mêl ac, a ellir, wrth luosogi’r nodweddion hyn, gyfrannu at strategaethau rheoli ar gyfer faroa. Diolch ichi am ymuno â ni heddiw, Stephen, a chroeso i’n podlediad. Efallai hoffech chi gyflwyno eich hun a dweud gair neu ddau am gefndir eich ymchwil. Wel diolch yn fawr ichi Lynfa am roi’r cyfle hwn imi siarad am ein gwaith ac rwyf wedi bod yn ymchwilio i faroa nawr am dros 30 mlynedd. Dechreuais yn yr Uned Wenyn Genedlaethol a bûm yno am dros ddegawd, a dyma lle dysgais i’r pethau sylfaenol. Fe wnaethon ni lawer o waith ar atgynhyrchiad faroa ac i geisio creu offer monitro ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaethon ni lwyddo i ddatrys problem eithaf mawr sef beth yn union oedd yn lladd y nythfeydd. Fel y digwydd, nid y gwiddon yn uniongyrchol oedd ar fai ond yn hytrach eu cysylltiad â’r firysau, y firws adenydd wedi’u hanffurfio yn benodol, sy’n awr wedi dod yn fath o norm. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn ymwneud â deall sut mae’r firws yn atgynhyrchu, ei effaith ar wenyn mêl ac mae’r cyfan wedi bod braidd yn besimistaidd fel yna. Ond yn ddiweddar, rydyn ni wedi llwyddo i symud at destun llawer mwy diddorol ac mae’r cyfan wedi arwain ymlaen at hyn. O safbwynt ceidwaid gwenyn, mae’n ymwneud â sut mae’r gwenyn yn magu ymwrthedd ac fe wnaethon ni ddechrau astudio yn y tîm, ymwrthedd gwenyn, 20 mlynedd yn ôl ym Mexico ond allen ni ddim deall y dull mewn gwenyn wedi’u Affricaneiddio. Ond yn 2017 cafodd papur mawr ei gyhoeddi gan fyfyriwr PhD Norwyaidd, Melissa Oddie, ac fe wnaeth hi ddarganfyddiad mawr. Ac oddi wrth hynny, rwyf wedi newid cyfeiriad ein tîm yn llwyr ac rydyn ni’n awr yn astudio ymwrthedd i faroa ac mae nawr yn amser cyffrous iawn. Waw, fe drown ni at yr ymwrthedd hwn i’r faroa mewn munud ond rwy’n meddwl i ddechrau oll, dim ond er mwyn amlinellu ychydig mwy ar y cefndir, ewch yn ôl i rywfaint o’r gwaith cynnar hwnnw roeddech chi’n ymwneud ag o ac a wnaeth ein helpu i ddeall cylch bywyd gwiddon a’u heffaith ar nythfeydd. Efallai y gallech chi ddweud ychydig rhagor wrthyn ni am yr effaith y mae’r gwiddon yn ei chael ar nythfeydd gwenyn mêl a pham bod angen inni fod yn bryderus am y peth? Iawn, wel dydy faroa ddim yn barasit brodorol i’r gwenyn mêl. Fe wnaeth neidio’r rhwystr rhywogaethau o Apis cerana drosodd yn Nwyrain Asia a lledaenu o amgylch y byd, a bryd hynny fe ddaeth, ac mae’n dal i fod, yn brif bla byd-eang i wenyn mêl a cheidwaid mêl yn hemisffer y Gogledd. Ac mae hynny oherwydd mae’r hyn mae’n ei wneud yn llwyddiannus dros ben. Mae’n addasu llawer iawn er mwyn iddo allu byw mewn nythfa gwenyn mêl. Ni all ond fyw mewn gwenyn mêl. Mae’n dra arbenigol fel yna. Mae’n bwydo ar y mag sy’n datblygu, dyna lle mae’n atgynhyrchu, ac yna pan nad yw’n atgynhyrchu, mae’n treulio ei amser ar y gwenyn llawn dwf a hefyd yn bwydo ar gyrff tew y gwenyn. Y broblem fawr, mae’n ddamweiniol mewn ffordd, yw ein bod yn gwybod oddi wrth ddwy boblogaeth nawr, sy’n boblogaethau rhydd o faroa, y gallai’r gwenyn yn gyflym iawn addasu i’r gwiddon. Ac mae honno’n sefyllfa brin eithriadol. Poblogaethau bychan ar ynysoedd yw’r rhain, un ym Mrasil ac un yn Papua New Guinea. Beth ddigwyddodd yng ngweddill y byd, oedd fod yna nifer fawr o firysau gwenyn, firysau’r ydyn ni’n gyfarwydd iawn â nhw’n awr, ac yn syml fe aeth y faroa yn gysylltiedig ag un ohonyn nhw. A’r uniad hwnnw rhwng y gwiddon faroa â’r firws adenydd wedi’u hanffurfio, sydd ddim yn lladd y pwpaod, ac sydd felly mae’n caniatáu i’r gwiddon atgynhyrchu, sy’n effeithio ar y nythfa. Drwy leihau oes gweithwyr unigol, mae’n achosi i’r nythfa ddarfod, dros y gaeaf fel arfer oherwydd does yna ddim digon o weithwyr i adnewyddu’r nythfa yn ystod yr egwyl hir honno. A dyna beth wnaeth achosi’r broblem mewn gwirionedd. Felly’r firws storm perffaith hwn a fu unwaith yn brin eithriadol a sydd nawr ymysg y firysau pryfed mwyaf cyffredin ar y blaned oherwydd natur helaeth gwenyn mêl, sef y firws adenydd wedi’u hanffurfio, a’r firws, mae’r gwiddon faroa yn trosglwyddo’r firws yn ddiarwybod. I ddangos sut mae esblygiad yn gweithio, fe wyddon ni’n awr fod straen farwol y firws hwn yn cael ei gyfrif fel straen A a fod honno’n awr wedi newid yn straen B, ac yn ddiddorol, fel all straen B y firws atgynhyrchu yn y gwiddon lle na allai straen A wneud hynny. Felly, mae’n esblygu’n barhaus i fod yn well trosglwyddwyr. Ie, felly dyna’r holl waith a wnaethom ar y firws, ac yna fe wnaethon ni lawer o waith cyn y gwaith firws ar atgynhyrchu oherwydd mae’n rhaid ichi ddeall atgynhyrchiad y gwiddon. Nid yw’n effeithlon iawn mewn Apis mellifera ond mae’n ddigon ar y cyd â’r firws i ladd y nythfa yn anffodus. Fel ddywedais i, dros y gaeaf fel arfer. Ie, a dwi’n meddwl eich bod yn gwybod, fel y dywedwch chi, mai dyna yw’r rhan hollbwysig, yn de? Bod yn gallu sylweddoli pan fo gennych chi faroa yn eich nythfeydd, fel y gwyddoch, sef mae’n debygol y rhan fwyaf ohonon ni y rhan fwyaf o’r amser, ond bod yn gallu ei reoli. A ydyn ni’n gallu dweud os yw’r firysau yn y nythfeydd, a bod y firws adenydd wedi’u hanffurfio hwn yn enwedig yn y nythfa hefyd? Felly, mae ceidwaid gwenyn yn hoffi cysylltu’r firws adenydd wedi’u hanffurfio gyda phresenoldeb adenydd wedi’u hanffurfio. Yn wreiddiol, firws B yr Aifft oedd yr enw arno, ac mewn ffordd mae hwnnw’n enw gwell arno o bosibl oherwydd fe fydd y firws gan y rhan fwyaf, os nad yr holl wenyn yn y nythfa, neu gan ganran uchel iawn o’r gwenyn ym mhob nythfa yn y Deyrnas Unedig, heblaw am un neu ddwy o boblogaethau anghyffredin, ac mae hynny mewn gwenyn sydd ag adenydd normal a gydag adenydd wedi’u hanffurfio wrth gwrs. Ac rydyn ni’n awr yn gwybod oddi wrth waith yr Athro Evans pam bod yr anffurfiad yn digwydd. Mae’n eithaf prin a dweud y gwir ac mae’n digwydd ar hap pan fo’r firws yn dechrau atgynhyrchu yn egin yr adenydd. Nid yw hyn yn beth cyffredin, ond pan mae’n digwydd, dyna pan gewch chi’r anffurfiadau yn yr adenydd. Felly, fel ceidwaid gwenyn mae’n amhosibl canfod y firws. Fe allwch chi ddyfalu’n gywir os oes gennych chi faroa, ac fel y dywedoch chi’n iawn, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny ac os oes gennych chi adenydd wedi’u hanffurfio yn y nythfa, mae’n arwydd bod eich nythfa mewn trwbl difrifol. Byddwn i’n dweud fod yna lawer o widdon faroa. Ond ie, yn anffodus ar gyfer y rhan fwyaf o’r gwenyn allwch chi ddim dweud. Mae’n eistedd yno ac mae arnoch chi angen, wel yn anffodus mae arnoch chi angen dulliau moleciwlaidd PCR i ganfod y firws. Mae hynny’n ddiddorol Stephen. Felly’r hyn rydych chi’n ei ddweud mewn gwirionedd yw nad yw presenoldeb adenydd wedi’u hanffurfio wir ddim ond yn crafu’r wyneb? Mae honno’n ffordd ardderchog o’i ddisgrifio. Ie, felly yr ychydig wenyn gydag anffurfiad yw’r rhai sydd, yn amlwg, â’r firws adenydd wedi’u hanffurfio. Nid pob gwenyn gydag adenydd wedi’u hanffurfio cofiwch, roedden nhw i’w cael cyn i’r firws ddigwydd. Os nad oes digon o leithder yn y nythfa fe allwch chi hefyd achosi adenydd wedi’u hanffurfio ond mae’r rhan fwyaf yn awr yn gysylltiedig â’r firws ac yna os crafwch yr wyneb fe gewch y mwyafrif helaeth o wenyn sydd â’r firws. Ond mae ychydig yn fwy cymhleth na hynny oherwydd os yw’r gwenyn yn codi’r firws fel oedolyn, gan widdonyn fforetig, yna nid yw’r effaith mor fawr â phe byddem yn ei godi pan fo’r pwpa yn datblygu. Y gwenyn hynny sy’n datblygu sydd ag oes cymaint byrrach. A, dyna bwynt diddorol arall eto. Felly, beth yw effeithiau’r firws ar y nythfa? Felly, ceir llawer o fân effeithiau ond yr effaith fwyaf yw ei bod yn byrhau eu hoes, oddeutu traean. Felly, yn yr haf, maent yn byw oddeutu wythnos yn llai ond yn y gaeaf, mae’r holl wenyn sydd wedi’u heintio â’r firws, maen nhw fel arfer wedi marw erbyn y Nadolig. Ni allant oroesi drwodd i’r pen arall ac mae hynny’n achosi i’r nythfeydd farw. Mae yna effeithiau eraill wedi’u canfod hefyd, sef dryswch ac oes fer hefyd yn yr oedolion ond mae’n llai amlwg, a mwy o fforio. Felly, mae’n newid eu hymddygiad mewn sawl ffordd ond yr un mawr yw byrhau eu hoes. Ac unwaith eto, mae hynny’n effeithio ar allu’r nythfa i oroesi dros y gaeaf. Ydy yn union, a dyna pam rydyn ni’n gweld bron yr holl nythfeydd yn marw yn y gaeaf, oherwydd yn ystod y gwanwyn a’r haf mae’r nythfeydd yn ehangu, maen nhw’n cynhyrchu, wyddech chi, hyd at 2,000 o wenyn newydd y dydd, felly fe allwch chi golli llawer o wenyn bob dydd a bydd y nythfa yn dal i dyfu. Ond mae’n digwydd yn y cyfnod tawel, oherwydd yn yr hydref, Awst, Medi, ceir storm berffaith arall lle cewch chi ostyngiad ym mhoblogaeth y gwenyn llawn dwf ond wedyn gynnydd yn y boblogaeth gwiddon felly mae’r pla yn cynyddu’n aruthrol. A dyma’r amser tyngedfennol pan fo’r rhan fwyaf, neu cyfran fawr o’ch gwenyn gaeaf yn cael eu heintio â’r firws a’r rhain sy’n marw allan. Nid oes angen i bob gwenyn gael ei heintio. Dyma pam bod tua 2,000 o widdon yn ddigon i difetha’r nythfa yn ystod cyfnod y gaeaf. Felly chewch chi ddim digon o wenyn i wneud y nythfa’n hyfyw ym mis Ebrill. Ie, felly, dim ond i daro nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol, nawr mae eich gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar rai o nodweddion naturiol y gwenyn mêl a allai fod yn eu helpu i amddiffyn eu hunain yn erbyn faroa. Felly, beth yw’r nodweddion hyn rydych chi’n ymchwilio iddynt? Iawn felly, mae hyn wir yn gyffrous ar ôl treulio oddeutu 30 mlynedd yn gweithio ar faroa, mae’n braf iawn gweld, bod yn gallu gweld canlyniad cadarnhaol o’r diwedd. Felly, fe wyddom 20 mlynedd yn ôl, fod gwenyn wedi’u Affricaneiddio yn gallu byw gyda faroa ac mae’r firws ganddynt, yr un firysau a sydd gennyn ni, ac mae ganddyn nhw’r un gwiddonyn. Felly, mae’r sefyllfaoedd yn union yr un fath. Ac eithrio, dydy’r nythfeydd hyn ddim yn marw, ac ni chânt eu trin o gwbl, ac maen nhw’n parhau am ddegawdau nawr heb driniaeth ac rydyn ni’n ymwybodol o hynny. Nawr, fe wyddom mai un o’r achosion y tu ôl hynny yw bod eu gallu i atgynhyrchu yn lleihau. Y darn mawr coll o’r jig-so oedd na wyddom beth oedd yn achosi’r anallu hwnnw i atgynhyrchu cystal ag mewn hinsoddau cymedrol. Yna’n fwy diweddar, y fyfyrwraig Norwyaidd, Melissa Oddie, fe wnaeth hi ganfod fod yna nodwedd y gwnaeth hi ei disgrifio, a elwid yn ailgapio. Roedd hi’n astudio nythfeydd a oedd yn boblogaethau ag ymwrthedd, roedd y rhain yn boblogaethau a oedd ag ymwrthedd naturiol, na chawsant eu trin ers dros 10 mlynedd, yn erbyn y poblogaethau agored i niwed clasurol, y mae ceidwaid gwenyn yn eu trin yn barhaus. Ac fe wnaeth sylwi ar y nodwedd hon, sef gallu’r gwenyn i ganfod celloedd wedi’u heintio, ac fe allwch weld hyn drwy’r cyfraddau ailgapio. Sef pan gaiff cell ei hagor ac yna ei chau drachefn. Yn y nythfeydd sydd ag ymwrthedd roedd yn uchel iawn, mae 50 y cant neu ragor o’r celloedd heintiedig wedi cael eu hailgapio a llawer o’r celloedd sydd heb eu heintio. Tra bod y boblogaeth agored i niwed yn dangos lefel eithaf isel o’r ymddygiad ail-gapio hwn. Os edrychwch wedyn mewn nythfeydd glân, lle na welwyd faroa erioed, megis yn Awstralia neu ar Colonsay, yr ynys yn y Deyrnas Unedig lle nad oes dim faroa, neu Ynys Manaw, yna dydy’r ymddygiad ailgapio hwn bron byth i’w weld. Felly, fe wnaeth y nodwedd hon addasu’n syml i frwydro yn erbyn faroa. Mae’n mynd ychydig yn fwy cymhleth na hynny oherwydd bod yr ailgapio yn nodwedd dda iawn rydyn ni’n gallu ei mesur ond yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, wel mi af fi ymlaen at hynny mewn munud, ond y nodwedd arall yw eu bod yn gallu canfod a chael gwared ar bwpaod heintiedig. Dydyn nhw ddim yn cael gwared ohonynt, maen nhw’n eu canibalyddio nhw. Y gallu hwn y mae’r gwenyn wedi’i ddysgu i ganfod celloedd heintiedig yw’r pwynt allweddol ym mhob poblogaeth sydd ag ymwrthedd ar draws y byd ac rydyn ni’n eu hastudio mewn llawer iawn o wledydd. Hon yw’r nodwedd ganolog, maen nhw i gyd yn addasu yn yr un ffordd, ac maen nhw’n dysgu i wahaniaethu rhwng cell heintiedig a chell iach ac yna maen nhw’n defnyddio eu hymddygiad hylan i gael gwared ohonyn nhw. Ac a oes gennych chi unrhyw syniad sut maen nhw’n llwyddo i ganfod a oes gwiddon yn y celloedd ai peidio? Oes. Fe wnaeth grŵp Fanny Mondet dipyn o waith yn Ffrainc dros nifer fawr o flynyddoedd. Mae’n ddarn ardderchog o waith. Maen nhw wedi dangos ei bod yn ymddangos bod epil y gwiddon yn cynhyrchu cyfres o getonau ac asetadau. Maent i’w cael yn y celloedd heintiedig. Y dybiaeth yw ei fod yn dod o epil y gwiddonyn. Mae’n bosibl y gallai ddod oddi wrth y pwpaod fel arwydd o straen, ond mae hynny i’w benderfynu eto, ond fe wyddom fod gan y celloedd hyn arogl unigryw cetonau a rhai asetadau. Dyna beth maent wedi’i ddysgu ac maen nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng pa gelloedd mae hyn yn effeithio arnynt a pha rai sy’n lân, ac maen nhw’n gwybod beth mae’n ei olygu. Maen nhw’n gallu ei gysylltu â faroa. Waw, mae hynny’n ddiddorol dros ben. Felly, pan maent yn dadgapio’r celloedd hyn beth maen nhw’n ei wneud i’r gwiddon? A ydy’r weithred o ddadgapio ynddi’i hun yn lladd y gwiddon ynteu a ydy hynny jest yn amharu ar eu hatgynhyrchiad? Beth yn union sy’n digwydd? Rydyn ni’n meddwl mai sgil effaith i’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ydy’r ailgapio. Pan fo’r gwenyn yn canfod cell heintiedig, mae dawns gymhleth o ymddygiad hylan yn dechrau sy’n cynnwys nifer o wahanol grwpiau o wenyn. Mae’r gwenyn cychwynnol i’w cael, sy’n wenyn hynod arbenigol sy’n gallu canfod y gwahaniaethau hyn ac agor y gell. Mae yna wenyn arall sy’n dod heibio, ac os ydyn nhw’n penderfynu hefyd fod y gell hon wedi’i heintio gan y gwiddon, byddant wedyn yn cynyddu ei maint ac yna’n dechrau canibalyddio’r pwpa unigol. Pan wnânt hyn, mae yna nifer o wenyn yn ymuno â nhw. Pan maen nhw’n gwneud hyn, mae’r fam-widdon yn dianc, gan ei bod hi’n dal i fod yn addasadwy iawn. Ond mae’n colli ei holl epilion, ac felly’n colli unrhyw siawns o atgynhyrchu yn ystod yr amser hwnnw. Nid oes gan widdon ond y gallu i atgynhyrchu ddwywaith neu dair yn ystod eu hoes, felly os oes rhywbeth yn tarfu arnoch unwaith, rydych chi’n colli traean o’ch gallu i atgynhyrchu. Fodd bynnag, mae yna wenyn eraill yn y nythfa, pan welant gell agored, fe fyddant yn ei hailgapio, ac os yw’r pwpa yn dal yn fyw, fe allant ganfod hynny, ac os nad oes dim i’w weld o’i le, fe wnânt ailgapio’r gell. Felly, mae fy nhîm wedi gallu dangos bod yr ailgapio yn digwydd mewn ardaloedd, ac mae’n digwydd mewn ardaloedd o amgylch celloedd heintiedig. A dyma pam bod ailgapio yn ddirprwy da i’r ffaith eu bod wedi llwyddo i ganfod celloedd â gwiddon ynddynt, oherwydd mae’r celloedd hyn yn cael eu hagor a’u cau a’u hagor a’u cau ac yna efallai eu hagor a’u dinistrio. Mae hyn yn digwydd am ddyddiau lawer yn ystod datblygiad y pwpa. Waw, mae yna felly, dwi’n meddwl ei bod hi’n gwbl anhygoel meddwl bod yna felly wahanol grwpiau o wenyn yn rhan o’r broses gyfan hon. Rhaid imi gyfaddef mai fy nhybiaeth wreiddiol oedd mai un wenynen oedd yn dadgapio ac yna o bosibl yn ei hailgapio. Felly, mae’n ddiddorol clywed bod yna mewn gwirionedd nifer o grwpiau o wenyn yn rhan o’r hyn sy’n broses llawer mwy cyfrannog. Ydy. Felly, mae’r gwaith hwn yn seiliedig yn bennaf ar grŵp Marla Spivak ym Minnesota ac maen nhw wedi treulio bron i ddegawd yn astudio ymddygiad hylan. Nhw oedd y rhai i wir ddatrys y mater hwn. Ond ydynt, mae gwenyn yn arbenigo. Rydyn ni’n meddwl am wenyn sy’n nyrsys a gwenyn sy’n fforwyr ac mae’n union yr un peth. Mae wedi dangos bod yna fwlch dau oed, felly rhwng…, dydw i ddim yn hollol sicr ar gyfer y cetonau, ond mae gwenyn yn dod yn sensitif iawn dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Ac mae hyn yn ymwneud â’r newidiadau yng nghemeg eu hymennydd ac maen nhw’n dda iawn am synhwyro pethau, am synhwyro gwahaniaethau. Mae’r ailgapwyr wedyn yn grŵp gwahanol o wenyn. Os cewch chi anghydbwysedd rhwng y gwahanol grwpiau hyn fe allech yn y diwedd gael mag moel, gan fod rhai gwenyn yn mynd o gwmpas yn agor celloedd ond efallai nad oes digon o ailgapwyr yn y nythfa i gywiro’n gyflym y camgymeriadau y gellir eu gwneud. Mae yna ddau bosibilrwydd pam eu bod yn agor y celloedd sydd heb eu heintio, mae’n wastraff amser i bob golwg. Efallai mewn cwch gwenyn, mewn cell heintiedig, ei bod hi’n anodd iawn synhwyro’r cemegau hyn oherwydd eu bod yn dod drwy sidan ac yna maen nhw’n dod drwy’r cwyr ac yna mae gwenyn yn symud o gwmpas drwy’r amser. Felly, fe allai’r gwenyn feddwl ei fod yn yr ardal hon, ac maen nhw’n dechrau dadgapio nifer o gelloedd i ganfod yr union gell. Felly dyna un posibilrwydd ac o bosibl yr un mwyaf tebygol. A’r posibilrwydd arall yw bod gwiddon yn aml yn dod at ei gilydd mewn grwpiau, mewn diliau, felly unwaith y mae gwenyn yn dod o hyd i un mae wedyn yn chwilio o amgylch y gell honno am rai eraill. Dyna pam maen nhw’n dadgapio llawer o gelloedd sydd heb eu heintio hefyd, ac wrth gwrs mae’r rhain yn werthfawr iawn felly mae eu hailgapio yn nodwedd bwysig iawn, oherwydd camgymeriad ydy e felly mae angen cywiro’r camgymeriad, oherwydd os dechreuant gael gwared ar fag sydd heb ei heintio ymhen amser fe fyddent yn lladd y nythfa felly mae’n rhaid iddynt fod yn ofalus iawn. Felly, mae’r gwenyn wedi esblygu llawer iawn i wneud y pethau hyn. Ydyn, ac rwyf fi’n bendant wedi gweld darnau o fag heb ei gapio yn fy nythfeydd i sydd heb eu hailgapio eto. Felly, ydych chi’n meddwl eu bod nhw ymhen amser yn ailgapio’r rheini yn hytrach na’u gadael yn foel? Ydy, a dweud y gwir, dydych chi byth yn gweld gwenyn, wel fyswn i ddim yn dweud byth, ond prin iawn fyddech chi’n gweld celloedd sydd heb eu capio sydd â phwpa aeddfed iawn ynddynt. Felly maent bron â dod allan neu’n dywyll iawn. Maent yn tueddu i fod â chyrff gwyn, naill ai llygaid gwyn neu binc neu biws, felly maen nhw fel arfer mewn cam penodol ond dydyn nhw byth yn llawer hwyrach. Felly, maen nhw wastad yn cael eu hailgapio. Mae rhai gwyddonwyr wedi tynnu’r holl gapiau oddi ar ffrâm fag, eu roi’n ôl yn y nythfa i weld beth sy’n digwydd, ac maen nhw’n eu hailgapio’n gyflym iawn. Yr holl gelloedd. Felly, os oes rhywun, gan fod gan yr holl wenyn yn y Deyrnas Unedig y gallu, nid yw’n allu da iawn, ond mae ganddynt rywfaint o allu i ganfod y gwiddon, yna mae pobl yn gweld fwyfwy y mag wedi’i ailgapio, y mag moel hwn. Os awn ni’n ôl ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, fe welwch eu bod yn edrych yn normal unwaith eto. Mae hynny’n ddiddorol iawn a dweud y gwir oherwydd dydw i ond erioed wedi’u gweld nhw yn y cam gwyn, fel y dywedwch, dydych chi byth yn gweld nhw’n hwyrach na hynny. Felly ie, mae’n eithaf calonogol meddwl bod y nodweddion hyn yn bodoli. Sut allai ceidwaid gwenyn felly fonitro eu hunain i wybod a oes ganddynt nodweddion tra datblygedig fel hyn yn eu nythfeydd eu hunain? Wel, rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i deithio o amgylch nifer fawr o wledydd i ddechrau magu profiad a hefyd siarad â cheidwaid gwenyn yn y Deyrnas Unedig sydd, wyddech chi, eisoes ddim yn trin. Mae pobl wedi mynd i lawr y trywydd hwn mewn sawl ffordd. Un o’r rhai symlaf, a dyna beth ddigwyddodd yng Ngogledd Cymru ac rwyf wedi...
/episode/index/show/65e9cd12-8df8-44b0-a088-e979a5526372/id/26464881