Healthy Bees Academy - Professor Peter Graystock and Monika Yordanova
Release Date: 04/06/2023
Menter a Busnes
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a
info_outlineMenter a Busnes
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a Helo a chroeso i'r podlediad hwn sy'n rhan o fodiwlau hyfforddi Iechyd Gwenyn a ariennir trwy Gynllun Gwenyn Iach 2030. Lynfa Davies yw fy enw ac yn y bennod yma fe fydda i’n siarad gyda Mark McLaughlin o'r Uned Wenyn Genedlaethol i drafod eu gwaith. Diolch am ymuno â ni heddiw Mark a chroeso i'n podlediad. Efallai y gallech chi ddechrau drwy gyflwyno eich hun a dweud ychydig wrthym am yr Uned Wenyn Genedlaethol (NBU). Helo...
info_outlineMenter a Busnes
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a Helo a chroeso i’r podlediad sy’n rhan o’r modiwlau hyfforddiant Iechyd Gwenyn a ariennir drwy Gynllun Gwenyn Iach, 2030. Fy enw i yw Lynfa Davies ac yn y Bennod yma byddaf yn sgwrsio â’r Athro Peter Graystock a Monika Yordanova o Goleg Imperial Llundain i drafod eu hymchwil i’r ffactorau sy’n gwneud gwenyn yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau. Diolch am ymuno â ni heddiw Peter a Monika a chroeso i’n...
info_outlineMenter a Busnes
This podcast is part of the Healthy Bees Academy. Find out more by visiting Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach. Dysgwch fwy trwy ymweld a Helo a chroeso i’r podlediad hwn a fydd yn cyfrannu at ein modiwl Hyfforddiant Iechyd Gwenyn ar reoli faroa. Lynfa Davies ydw i ac yn y bennod hon byddaf yn sgwrsio â’r Athro Stephen Martin o Brifysgol Salford am ei waith ar nodweddion ymwrthedd naturiol i faroa ymysg gwenyn mêl ac, a ellir, wrth luosogi’r nodweddion hyn, gyfrannu at strategaethau rheoli ar gyfer faroa. Diolch ichi am ymuno â ni heddiw, Stephen, a chroeso...
info_outlineThis podcast is part of the Healthy Bees Academy.
Find out more by visiting https://menterabusnes.cymru/healthy-bees-academy/
Mae'r podcast yma yn rhan o'r Academi Gwenyn Iach.
Dysgwch fwy trwy ymweld a https://menterabusnes.cymru/academi-gwenyn-iach/
Helo a chroeso i’r podlediad sy’n rhan o’r modiwlau hyfforddiant Iechyd Gwenyn a ariennir drwy Gynllun Gwenyn Iach, 2030.
Fy enw i yw Lynfa Davies ac yn y Bennod yma byddaf yn sgwrsio â’r Athro Peter Graystock a Monika Yordanova o Goleg Imperial Llundain i drafod eu hymchwil i’r ffactorau sy’n gwneud gwenyn yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau.
Diolch am ymuno â ni heddiw Peter a Monika a chroeso i’n podlediad. Peter, hoffech chi ddechrau drwy gyflwyno eich hun a dweud rhywfaint am eich gwaith a gwaith y tîm yng Ngholeg Imperial Llundain. Ie iawn, felly, rwy’n ymchwilydd ac yn ddarlithydd yng Nghampws Silwood Park Coleg Imperial Llundain, ac mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cymunedau cymhleth o ficrobau a sut mae’r rheini, yn eu tro, yn dylanwadu ar gymunedau hyd yn oed mwy cymhleth, sef peillwyr a’u hiechyd. Felly, yn fy labordy rydyn ni’n edrych ar y mathau o ficrobau sydd i’w gweld mewn gwenyn, sut gwnaethon nhw gyrraedd y gwenyn, a beth yw swyddogaeth y microbau hyn? Ydyn nhw’n cael effaith bositif neu effaith negyddol ar iechyd y gwenyn dan sylw? Felly, drwy ofyn y cwestiynau hyn, mae fy ngrŵp yn tueddu i archwilio pethau fel y dynameg microbaidd rhwng poblogaethau o wenyn. Maen nhw’n nodi’r microbau penodol sy’n ymddangos eu bod yn dylanwadu ar iechyd gwenyn lle mae straenachoswr ychwanegol fel plaleiddiaid neu rywbeth tebyg. Ac yna, yn y bôn, rydyn ni’n dod â’r holl wybodaeth ynghyd i geisio datblygu strategaethau er mwyn helpu i ddiogelu iechyd peillwyr gan ddefnyddio’r hyn rydyn ni’n ei wybod am yr ecoleg ficrobaidd.
Mae hynny’n eithaf ddiddorol oherwydd mae eich gwaith yn ymwneud â mwy na gwenyn mêl yn unig, yn dydy? Wel, mae gennyn ni ddiddordeb penodol mewn gwenyn mêl ar gyfer y podlediad hwn, ond mae’n ddiddorol nodi bod eich gwaith yn ymdrin â rhywogaethau gwenyn gwyllt hefyd. Ie yn bendant, felly roedd fy PhD yn edrych yn benodol ar gacwn, neu bumblebees, sy’n cael eu rheoli. Felly, mae’r diwydiant cacwn sy’n cael eu rheoli yn un mawr, yn enwedig ym Mhrydain. Rydyn ni’n mewnforio tua 70 000 o gacwn i Brydain bob blwyddyn.
Felly, dechreuais i astudio gwenyn sy’n cael eu rheoli ar lefel rhywogaethau gwyllt felly mae fy ngwaith ymchwil wedi parhau fel hyn. Rydyn ni’n edrych ar wenyn fel cymuned ac mae’r gymuned honno yn cynnwys rhai gwenyn gwyllt a rhai gwenyn sy’n cael eu rheoli a’r rhyngweithio rhwng y ddau.
Gwych, felly Monika, fyddech chi’n hoffi cyflwyno eich hun ac esbonio beth rydych chi’n ei astudio ar gyfer eich PhD, ac yn benodol, rwy’n meddwl byddai ein gwrandwyr yn hoffi gwybod sut mae eich PhD yn cael ei ariannu.
Hi Lynfa, diolch i chi am y cyfle i gymryd rhan yn eich podlediad. Rwy’n astudio am PhD yn Silwood Park, Coleg Imperial Llundain, ac rwy’n edrych ar bresenoldeb pathogenau mewn tirweddau naturiol, ac mewn tirweddau ehangach, ond rwy hefyd yn canolbwyntio’n benodol ar glefyd Ewropeaidd y gwenyn, neu EFB, a’r ffordd gall ffactorau gwahanol helpu’r clefyd i ddatblygu mewn cytref. Felly, gan fod EFB yn glefyd dinistriol ym maes gwenyna mae’n addas iawn i gylch gwaith y corff sy’n fy ariannu, sef Bee Disease Insurance a CB Dennis Trust.
Mae EFB ac AFB, clefyd Americanaidd y gwenyn, yn glefydau hysbysadwy yn gyfreithiol, felly, yn aml bydd yn rhaid i wenynwyr ddifa’r cwch mae’r clefyd wedi effeithio arno, ynghyd â’r holl offer cysylltiedig, er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu i gychod eraill. Felly, mae Bee Disease Insurance yn gwmni yng Nghymru a Lloegr sy’n cael ei redeg gan wenynwyr ac mae’n cynnig yswiriant ar gyfer
prynu offer gwenyna newydd yn lle unrhyw
offer sydd wedi gorfod cael eu dinistrio
oherwydd y clefydau hyn.
Ymddiriedolaeth yw CB Dennis ar y llaw arall,
ac mae’n ariannu gwaith ymchwil sy’n cyd-fynd
â’i nod o hyrwyddo gwyddoniaeth sy’n
gysylltiedig â gwenyn a’u hiechyd, a gwenyna
ym Mhrydain yn gyffredinol, ond hefyd yn fwy
eang yn Ewrop. Mae’n ariannu rhai
prosiectau yn Ewrop hefyd. Mae gan y ddau
gorff ethos cryf o gefnogi ymchwil sydd wedi’i anelu
at wella arferion cadw gwenyn ac iechyd
gwenyn yn gyffredinol. Dyna pam maen nhw’n
cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sy’n
ceisio cyflawni’r nodau hynny, gan gynnwys
fy PhD.
O, mae’n wych clywed hynny ac mae’n braf
clywed bod rhywfaint o arian gwenynwyr
yn cael ei ddefnyddio ar gyfer PhD mor werth chweil.
Felly, rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed
canlyniadau eich gwaith. O, diolch yn fawr iawn i
chi am hynna.
Felly, mae eich gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar
glefyd Ewropeaidd y gwenyn.
Felly, pam mae’r clefyd hwn mor
ddiddorol i chi, a beth rydych chi’n
credu bydd eich gwaith ymchwil yn ei gyflawni?
Wel, rwy’n siŵr bydd eich gwrandawyr i gyd
yn gwybod pa mor ddinistriol yw
EFB, ac fel gwenynwr
fy hun, rwy’n gallu cydymdeimlo â phawb
sydd wedi dioddef oherwydd y clefyd hwn.
Mae’r symptomau yn gwaethygu mor
gyflym ac yn gallu lledaenu ar draws y
wenynfa gyfan os na fyddwch chi’n
gweithredu ar frys. Ond, y broblem ar hyn o bryd
yw mai ychydig iawn o bethau gallwn ni
eu gwneud os byddwn ni’n sylwi ar y clefyd
ac mae’r holl bethau hyn yn amharu’n ddifrifol ar y gwenyn. Felly,
mewn rhai achosion prin, efallai y bydden ni’n defnyddio
gwrthfiotigau neu’n defnyddio dull ysgwyd yr haid, ond yn aml
mae angen llosgi pob cwch a’r holl offer. Ar yr un pryd,
er bod effeithiau’r clefyd mor ddifrifol, rydyn ni’n
gwybod fod y pathogen yn gallu ymddangos yn naturiol
mewn cychod ac aros ynghwsg heb
achosi unrhyw symptomau o gwbl. Felly, mae hyn
yn ddiddorol iawn i mi. Rwy’n awyddus i wybod
beth yw’r ffactorau neu beth sy’n achosi i’r clefyd
ddigwydd, ac os feddyliwn ni am y peth o’n
safbwynt ni, mae gennyn ni system imiwnedd ac mae
gan bob organeb system imiwnedd, ac os bydd y system yn
cael ei gwanhau gall olygu ein bod yn llawer mwy
agored i heintiau penodol. Un enghraifft dda mewn pobl
yw’r eryr neu ‘shingles’,
lle mae’r pathogen yn aros ynghwsg
nes bod yr organeb letyol wedi gwanhau. Ac mae’r
un egwyddor yn wir yn achos y gytref. Felly,
rydyn ni’n gwybod os oes straenachoswyr
penodol, fel plaleiddiaid, eu bod nhw’n gallu
amharu ar iechyd y gytref a gall hyn
arwain at ddechreuad clefydau. Ac i’r
gwrthwyneb, gallwn ni hefyd edrych ar bethau
sy’n gwella iechyd y gwenyn ac yn
gwella eu hymwrthedd i’r straenachoswyr
hyn. Felly, mae gen i brosiectau
sy’n edrych ar y ffactorau sy’n ysgogi EFB yn y maes
a hefyd yn y labordy.
Mae hynna’n ddiddorol iawn Monika, a
hoffwn i fynd nôl at bwynt gwnaethoch chi
ei godi am y potensial i EFB fodoli’n naturiol
yn ein cychod, sef efallai mai’r straenachoswyr
sy’n achosi iddo ledaenu
ac amlygu ei hun. Felly,
pa dystiolaeth sydd yna mewn gwirionedd,
fod EFB yn eang iawn,
ac y gallai fod yn bresennol yn y rhan fwyaf o’n
cychod, ac mai’r cyfan sydd ei angen yw
i’r straenachoswyr hyn wneud iddo
ledaenu?
Wel, efallai nad yw’n bresennol yn ‘y rhan fwyaf
o gychod’, ond yn sicr mae’r clefyd
wedi cael ei weld mewn llawer o
gychod iach.
Ond gan ein bod ni’n profi am
bresenoldeb y pathogen rydyn ni’n
gwybod nad yw’n bresennol ym mwyafrif
helaeth y cychod, ac wrth gwrs mae’r NBU,
sef yr Uned Wenyn Genedlaethol,
maen nhw hefyd yn archwilio llawer iawn o gychod
ar hap. Felly, os byddai’r clefyd yn y
rhan fwyaf o gychod bydden ni’n
sylwi llawer mwy arno, ond
mae wedi cael ei weld mewn cychod iach
sydd heb unrhyw symptomau eraill o gwbl.
Mae hynna’n ddiddorol iawn,
yn anffodus rwy’n siarad o brofiad, ac mae’n
dipyn o ddirgelwch ble’n union
roedd yr achos oedd gen i wedi tarddu. Felly,
mae presenoldeb EFB ar draws Prydain
yn eithaf amrywiol ac mae’n ymddangos ei fod yn
gyffredin iawn mewn rhai ardaloedd, ond
does dim achosion o gwbl mewn ardaloedd
eraill. Rwy’n credu bod hyn yn wir am Cumbria a
Northumberland, lle dydyn nhw ddim yn
gweld EFB ar y cyfan. Felly, ydyn ni’n gwybod beth
sy’n wahanol am yr ardaloedd hyn, ac oes yna rhywbeth
sy’n achosi iddo fod yn fwy amlwg mewn rhai
ardaloedd, neu a oes rhywbeth yn arbennig am
rai ardaloedd, ac mae’r ffaith nad oes
llawer o achosion yn golygu nad yw’r clefyd
yn gallu sefydlu ei hun?
Wel, yn anffodus, mae llawer o bethau
dydyn ni ddim yn eu gwybod o ran
y rhesymau dros batrwm dosbarthiad ehangach EFB.
Ond rydyn ni’n gwybod rhai pethau. Felly,
rydyn ni’n gwybod fod masnach yn
bendant yn cyfrannu rhywfaint at y patrymau rydyn ni’n eu gweld.
Felly, gall y fasnach nwyddau gwenyna fod
yn ffactor pwysig, ac er bod rheoliadau clir
yn cael eu hamlinellu gan Sefydliad Iechyd
Anifeiliaid y Byd, gall cynnyrch sydd wedi’i halogi
â’r pathogen lithro drwy’r rhwyd,
gan arwain at achosion mewn rhai ardaloedd lle
mae masnach yn fwy tebygol. Ond
hyd yn oed ar ôl ystyried hyn, dydy masnach
ddim yn cynnig esboniad llawn ar gyfer y
patrymau rydyn ni’n eu gweld. Felly, mae
ffactorau eraill, fel amrywioldeb y straen,
ac rydyn ni’n gwybod fod straeniau penodol yn
llawer mwy tebygol o arwain at nifer
o achosion. Felly, mae’r mannau lle mae’r
straeniau hyn i’w gweld yn fwy tebygol
o gael llawer o achosion. Ond yn olaf, mae
llawer iawn o bethau dydyn ni ddim yn eu gwybod
o hyd a dyna’n rhannol beth
rwy’n ceisio rhoi sylw iddo
yn fy PhD, oherwydd fel y dywedais, mae
yna rai ffactorau ysgogol a allai ysgogi
clefydau eraill. Felly, rwy eisiau gweld
a oes unrhyw nodweddion yn y dirwedd
neu’r pethau rydyn ni’n eu defnyddio,
a allai fod yn ysgogi, neu a allai fod yn achosi i
ardaloedd penodol fod yn fwy tebygol o
weld achosion o’r clefyd.
Ac rydych chi’n codi pwynt diddorol arall
fan hyn, sef bod mwy nag un straen
o EFB, ydy hynny’n gywir? Ydy.
Yn bendant. Felly,
oes yna lefelau gwahanol o
bathogenedd yn perthyn i’r straeniau
gwahanol ac ydy hynny’n esbonio
pam mae’n ymddangos bod y broblem yn
waeth mewn rhai ardaloedd nag eraill?
Ie, mae hynny’n sicr yn ffactor pwysig
iawn, ac mae’n ymddangos nad yw rhai straeniau
yn firwlaidd iawn o gwbl a gall eraill fod llawer iawn
mwy firwlaidd, gan gael effaith llawer mwy
difrifol ar lefel y gytref.
Mae hynna’n ddiddorol iawn, felly o safbwynt
y gwenynwr, mae deall sut
mae EFB yn ymddwyn a’r llwybrau trosglwyddo
yn hanfodol, ond mae’n debyg nad
yw gwenynwyr yn deall hynny’n dda iawn.
Felly, Monika, oes gennych chi unrhyw
awgrymiadau neu air o gyngor ar gyfer
gwenynwyr ar sut i fonitro ar gyfer EFB a’i
reoli?
Oes yn sicr, a dweud y gwir, mae gan fy noddwyr Bee
Disease Insurance Limited, dudalen
wych yn cynnwys cyngor ymarferol i
wenynwyr ar sut gallan nhw leihau’r risgiau
o’r clefyd. Enw’r dudalen yw
‘10 tips for healthy bees’ ac mae’r rhestr
yn cynnwys pwyntiau sy’n cael eu cefnogi’n eang
gan waith ymchwil, fel peidio â bwydo mêl o gychod
eraill i’ch gwenyn.
A’r rheswm dros hynny yw oherwydd fod
pathogenau fel Melisococcus plutonius,
sy’n achosi EFB, ond hefyd pathogenau eraill,
yn gallu aros yn hyfyw yn y cynnyrch hyn
mewn mêl ac yna achosi clefyd yn y
cwch newydd. Ac mae
rhagor o gyngor gwych yna hefyd,
fel pwysigrwydd arfer safonau hylendid da
o amgylch y cychod, glanhau offer cychod yn rheolaidd
gan ddefnyddio soda golchi, golchi gwisgoedd
gwenyna yn rheolaidd, defnyddio menig tafladwy
os yn bosibl, a hefyd peidio â defnyddio hen
grwybrau, a newid y fframiau yn eich cychod yn
rheolaidd, bob rhyw dair blynedd. A’r rheswm mae hyn
mor bwysig yw bod hylendid da yn gallu lleihau’r
siawns o ddod i gysylltiad â phathogenau a allai
fod yn yr hen offer.
Ac mae pethau eraill y gallwn ni eu gwneud.
Gallwn ni hefyd leihau, neu gallwn ni geisio lleihau
ymddygiad naturiol fel drifftio a
dwyn.
A’r rheswm pam mae hyn yn ddefnyddiol yw
oherwydd gall pathogenau aros ar gyrff
gwenyn a hefyd mae gwenyn yn fwy tebygol
o ddwyn o gychod gwan, felly mae’n bwysig ceisio
lleihau’r math hwn o ymddygiad.
Mae rhai o’r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yn
Cynnwys trefnu’r cychod mewn ffordd sy’n golygu
nad yw’r mynedfeydd yn wynebu ei gilydd,
sy’n fwy tebygol o arwain at ddrifftio, ond hefyd
gosod rhwystrau ar y mynedfeydd i atal
pryfed mawr eraill rhag dod i mewn i’r cychod
a cheisio lladrata ohonyn nhw.
Ac yn olaf, mae’n hanfodol eich bod chi’n
dod yn gyfarwydd ag ymddygiad eich cychod
ac yn addysgu eich hun am y materion
y gallech chi eu hwynebu er mwyn i chi
sylwi arnyn nhw yn fuan. Ac wrth gwrs,
mae hyn yn berthnasol nid yn unig i EFB ond
i glefydau eraill.
Felly, mae’n bwysig cadw llygad ar
ymddygiad eich gwenyn, a sylwi os na fydd
eich cwch yn ffynnu neu’n cynhyrchu cynifer o weithwyr
ag y byddech chi’n ei ddisgwyl fel arfer
yn ystod yr adeg o’r tymor pan rydych chi’n
cynnal eich archwiliad.
Ac efallai, gallech chi hyd yn oed gymharu eich sefyllfa
â chychod eraill, a hefyd sylwi a yw patrwm y
mag yn edrych yn iach? Mae llawer
o bethau y gallwch chi gadw llygad amdanyn nhw ac
mae digonedd o gyngor ar gael ar-lein ac yn y
rhestr o bethau y dylech chi fod yn
sylwi arnyn nhw. Mae’n hollbwysig eich bod
chi’n gyfarwydd iawn â symptomau
clefydau, yn enwedig clefydau’r gwenyn,
oherwydd mae adnabod y clefydau hyn yn gynnar
yn allweddol, a gall y symptomau fod yn eithaf
annelwig ar y dechrau. Efallai bydd y larfâu
wedi afliwio rhywfaint, wedi melynu
ychydig, neu bydd perfeddion neu
traceau rhai o’r larfâu yn rhy amlwg. Ac os nad ydych yn siŵr,
mae’n well cysylltu ag arbenigwyr o’r
NBU, a gallan nhw gynnal profion ar eich larfâu
ar y safle i dawelu eich meddwl neu
ddelio â’r materion yn gyflym i’w hatal
rhag lledaenu ymhellach. A dyna pam mae’n
syniad da cofrestru eich gwenyn fel eu bod
yn cael arolygiad o dro i dro,
fel bod rhywun proffesiynol yn gallu chwilio’n rheolaidd
am y symptomau annelwig hyn, sy’n gallu bod yn anodd
i bobl heb hyfforddiant sylwi arnyn nhw.
Diolch am y cyngor gwych yna Monika. Rwy’n
meddwl y byddai’n ddoeth i bob un
ohonon ni wneud hynny.
Un peth sydd o ddiddordeb mawr
i mi o ran eich astudiaethau, mae gweithio
gyda chlefyd hysbysadwy yn dod â’i broblemau
yn amlwg, ac rwy’n siŵr bod
rhai heriau o ran gweithio’n ddiogel
gyda’r clefyd yma. Felly, efallai y
gallech chi esbonio sut byddwch chi’n cynllunio
rhai o’ch prosiectau fel nad ydych chi o bosibl yn
cyflwyno clefyd hysbysadwy i’r
amgylchedd.
Ie, mae hwnnw’n gwestiwn da.
Wel, mae llawer o reoliadau ynghlwm
â gweithio gyda’r clefyd yn y lle cyntaf.
Felly, rydyn ni wedi gorfod goresgyn
llawer o rwystrau er mwyn gallu cyflawni’r prosiectau
hyn yn y lle cyntaf.
Mae’n hynod o bwysig sicrhau
bod y pathogen yn cael ei gadw i’r
cyfleuster Categori Dau yn unig, felly mae’r
labordy yn cael ei reoleiddio’n agos iawn, ac mae
gennyn ni awtoclaf neu ffwrn aerglos sy’n hawdd iawn ei gyrraedd.
Mae awtoclaf yn eich galluogi i
sterileiddio unrhyw offer rydych chi’n eu
defnyddio, ond hefyd unrhyw ddefnyddiau eraill.
Felly, pan fydda i’n gweithio gyda’r
pathogen, rwy’n gweithio gydag ef
y tu mewn i lwfer microbaidd, ac yna mae’r
holl gynnyrch gwastraff ac unrhyw beth
rwy’n ei ddefnyddio, wel rwy’n ei roi mewn
bag yn syth wedyn cyn i mi hyd yn oed ei daflu,
ac mae’r bag hwnnw, rwy’n gallu ei
roi yn yr awtoclaf a gwneud yn siŵr
fy mod i’n cadw popeth yn gwbl, gwbl
ddi-haint. Felly, rhan o’r broses sicrhau
diogelwch yw gweithio bob amser yn y
lwfer microbaidd, gan gadw pethau ar
wahân bob amser, mewn un ardal
benodol, er mwyn symud y pathogen cyn lleied
â phosibl, a sterileiddio popeth yn drwyadl
drwy’r amser.
Ie, mae’n swnio fel protocol caeth
iawn i weithio gydag ef.
Ac, ydych chi’n edrych ar glefydau yn y
maes hefyd?
A sut allwch chi fonitro ar gyfer
y straenachoswyr gwahanol a’u
heffeithiau ar glefydau yn y maes?
Yn y maes, dydw i ddim o anghenraid yn
canolbwyntio ar y straenachoswyr a’r
tebygolrwydd bydd clefydau yn datblygu yn
y maes. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar
bresenoldeb y pathogenau yn y maes yn y
lle cyntaf. Felly, gan fy mod i’n mynd i safleoedd
lle dydw i ddim o anghenraid yn gwybod a ydw i’n
mynd i ddod ar draws y pathogen neu beidio,
ac rwy’n profi am ei bresenoldeb yn y maes,
mae llai o reoliadau, gan fy mod i’n profi
a yw’n bresennol mewn lleoliadau naturiol
a dydw i ddim wir yn trin unrhyw beth
yn y lleoliadau hynny. Felly gall fod yn
sefyllfa ychydig llai anffurfiol ond yn amlwg
mae’n bathogen peryglus iawn
yn y maes, felly dyna pam rydyn ni’n
osgoi gwneud hynny. Ie, yn union.
Gwych, wel diolch yn fawr i chi am hynna, a Peter, hoffwn i
droi atoch chi nawr, ac wrth i ni ddysgu
mwy am glefydau, mae’n dod yn
amlwg bod y rhyngweithio rhwng y gwenyn
a’u hamgylchedd a’r straenachoswyr
yn yr amgylchedd hwnnw yn gallu cael dylanwad
enfawr ar ba mor debygol yw’r gwenyn o ddioddef
o’r clefydau hynny.
Efallai gallech chi esbonio beth mae eich gwaith
wedi ei ddangos mewn perthynas â hyn?
Ie, iawn. Felly, mae yna ychydig o enghreifftiau
o ddylanwad ehangach yr amgylchedd
ar iechyd gwenyn neu’r potensial iddyn nhw
ddioddef o glefydau.
Felly, un o’r rheini, sy’n eithaf
diddorol, yw rôl blodau.
Felly, mae blodau yn adnodd bwyd sy’n cael ei
rannu rhwng gwenyn o’r un cwch a gwenyn o gychod
gwahanol, ond hefyd, rhwng rhywogaethau gwahanol
o wenyn hefyd. Felly, gan fod llawer o wenyn gwahanol
yn rhannu’r un lle bwyta, mae siawns bydd y clefyd
yn cael ei drosglwyddo yno. Felly, os gallwch chi
ddychmygu mynd i mewn i gaffi prysur, a dim ond
tair cwpan goffi sydd yno, ond dydyn nhw erioed wedi
cael eu golchi, ac mae’n rhaid i bawb ddefnyddio’r un
cwpanau. Byddech chi’n dychymygu y byddai pawb yn
gyflym iawn yn rhannu’r un symptomau ffliw a
dolur annwyd, a’r math yna o beth, yn gyflym iawn.
Fodd bynnag, os byddech chi’n mynd i mewn
i’r caffi ac er eu bod nhw’n dal ddim yn gallu golchi
eu cwpanau, ac roedd ganddyn nhw 100
o gwpanau, byddai hi’n dal yn bosibl trosglwyddo clefydau
rhwng rhai o gwsmeriaid y siop ond
i raddau llai na phetaech chi’n rhannu ychydig o
gwpanau yn unig. Ac mae’n debyg iawn i’r sefyllfa
gyda’r gwenyn, os bydd nifer mawr
o wenyn yn rhannu nifer bach o flodau, yna
gall clefydau gael eu trosglwyddo
rhwng y gwenyn yn eithaf cyflym. Oherwydd, pan fydd
gwenynen yn bwydo ar flodyn, gall adael
gronynnau trosglwyddadwy o
barasitiaid ar y blodyn hwnnw ac yna pan fydd gwenynen
arall yn dod i fwydo ar y blodyn gall godi’r parasitiaid.
Felly, dydw i ddim yn sôn am gyswllt corfforol uniongyrchol
rhwng gwenyn, ond yn hytrach gadael gronynnau trosglwyddadwy
ar y blodyn ar ôl i chi fod yno. Felly, os ydych chi mewn
tirwedd heb lawer o flodau, rydyn ni’n
tueddu i weld bod mwy o achosion o glefydau,
fel ar lefel cymunedol, ymhlith
peillwyr.
Ond, os yw hi’n adeg pan mae llawer
o flodau yn yr ardal honno yna
mae’n debygol bod llai o glefydau
ar draws y gymuned.
Ac felly, mae hwn yn faes rydyn ni’n
dal i ddechrau dysgu mwy amdano,
ac mae Monika yn mynd i fod yn edrych
ar hyn rywfaint wrth astudio clefydau’r gwenyn,
ond rydyn ni’n dal i drio gweld, os hoffwch chi,
beth yw’r prif ffactorau sy’n gyrru’r
broses hon o drosglwyddo parasitiaid
penodol drwy flodau. Ond y prif bethau rydyn ni’n
eu gwybod ar hyn o bryd yw, drwy gael
mwy o flodau, rydyn ni wedi lleihau
trosglwyddiad, oherwydd rydyn ni’n
ehangu nifer y lleoliadau mae’r gwenyn yn ymweld â nhw,
yn hytrach na’u bod nhw’n canolbwyntio
ar un man.
Un nodwedd arall yn ymwneud â’r
amgylchedd sy’n gysylltiedig ag iechyd a chlefydau
gwenyn, yw’r hinsawdd.
Nawr, mae hwn yn faes ymchwil cymharol newydd
ac mae’r rhan fwyaf o’r canfyddiadau yn y maes
hwn yn gydberthynol. Felly, yn achos un astudiaeth
fawr Ewropeaidd roedden ni’n gysylltiedig â hi, gwnaethon
ni gymryd gwenyn, gwenyn gwyllt a gwenyn mêl,
o wledydd gwahanol o hinsoddau gwahanol a
gwnaethon ni edrych am bum firws gwahanol
ac achosion o’r firysau hynny yn y gwenyn. A’r hyn
rydyn ni wedi ei weld yw, os ydych chi mewn ardal
lle mae’r firws yn uchel mewn gwenyn mêl, bydd y firws yn
uchel yn y gwenyn gwyllt hefyd. Felly,
fel cymuned, mae’r gyrwyr yn eithaf
tebyg. Ond yn nhermau’r hinsawdd, os ydych
chi mewn ardal gyda hinsawdd eithafol, felly
hinsoddau poeth iawn,
neu hinsawdd oer iawn, roedd swm y firws
yn ymddangos yn is na phetaech chi
mewn hinsawdd rhywle yn y canol. Ac mae
hyn yn ymchwil eithaf newydd, oherwydd
mewn gwirionedd mae angen i ni
wneud astudiaethau sy’n cynnwys trin y
gwenyn er mwyn deall beth yn union sy’n gyfrifol am hyn.
Mae’n bosibl nad yw firysau’n goroesi’n dda
mewn hinsoddau eithafol, felly mae ychydig yn well,
wyddoch chi, mae gwenyn ychydig yn fwy iach
ar yr hinsoddau eithafol hynny, ond rwy’n
meddwl ei bod yn fwy tebygol fod
gennyn ni duedd oroesi lle mae gwenyn, mewn hinsoddau
eithafol, yn ei chael yn anodd beth bynnag, ac
os oes ganddyn nhw firws byddan nhw’n marw’n gyflym iawn,
felly byddan nhw’n llai tebygol o gael eu cynnwys mewn sampl.
Felly, dyna pam mae’r astudiaethau
cydberthynas hyn bob amser yn ddiddorol, ond
maen nhw’n fan cychwyn da ar
gyfer astudiaethau llawdrin. Fel yn y labordy, lle gallwn
osod tymereddau gwahanol a gweld sut mae’r firws
neu’r clefyd yn newid yn y tymereddau hynny
Hefyd, mewn un astudiaeth yn y Deyrnas Unedig,
ond nid yn fy labordy i, gwnaethon nhw edrych ar ddata
NBU y llynedd, a gwnaethon nhw hefyd weld
a oedd cysylltiad rhwng tymheredd a glawiad a
rhai pethau eraill, â chlefydau gwahanol.
Ac roedd y tueddiadau yn wahanol, yn dibynnu ar
beth roeddech chi’n edrych arno. Ond unwaith eto, mae’n
gydberthynol, felly mae angen i ni ddechrau
gwneud y pethau llawdriniol hyn i
ddeall beth yw’r gyrwyr?
Beth yw’r cysylltiad? Oherwydd, er bod yna gysylltiad,
beth yn union sy’n ei achosi, a beth yw’r
effaith?
Felly ie, rydyn ni’n bendant yn gweld tystiolaeth
o gysylltiadau rhwng tirwedd y blodau ac mae
yna gysylltiad hefyd yn yr hinsawdd
mae’r gwenyn yn byw ynddo sy’n gyrru’r
clefyd, ac yna fe wnaethon ni sylwi ar
un ffactor eithaf annisgwyl yn ddiweddar,
sef ansawdd y pridd. Felly, gallwch chi gael
pob math o gemegion a metelau trwm a phethau
o’r fath mewn priddoedd, sydd yno’n naturiol,
ac mae rhai blodau yn dda iawn am harneisio’r
metelau trwm sydd yn y pridd. Ac mae hyn oherwydd,
os oes gennych chi flodyn sy’n cynnwys llawer o seleniwm,
er enghraifft, yn ei feinwe, mae’n golygu bod y
blodyn hwnnw yn wenwynig iawn i lysysydd ei fwyta.
Mae hyn yn amlwg yn beth gwych, ond mae’r cemegion hynny yn y paill
hefyd ac maen nhw yn neithder y blodyn hefyd.
Felly, beth wnaethon ni sylwi arno oedd bod gwenyn,
pan maen nhw’n bwydo ar y blodau hyn, yn gallu
dylanwadu ar y gymuned ficrobaidd yn eu perfedd.
Ac mae’r gymuned ficrobaidd naturiol hon
yn cynnwys genynnau sy’n helpu i
ddadwenwyno rhai o’r cemegion hyn, ond os
oes yna anghydbwysedd yn y gymuned honno,
nid yn unig gall hyn wneud y gwenyn yn sâl iawn,
gall ganiatáu i glefydau fynd i mewn i’w cyrff hefyd. Felly,
mae’r holl bethau hyn nad ydyn ni wedi meddwl
gormod amdanyn nhw yn y gorffennol, tirwedd y
blodau, hinsawdd, ac ansawdd y pridd, yn cael
yr holl effeithiau hyn ar wenyn, ac er efallai nad
yw’r pethau hyn yn eu lladd nhw’n syth
mewn treial 30-munud, dros amser rydych chi’n
sylwi eu bod yn cael effaith negyddol.
Ac yn fwyfwy erbyn hyn, rydyn ni’n darganfod nad y mai’r
pethau sy’n lladd y gwenyn yn syth sy’n gyrru’r dirywiad yn y gwenyn,
ond yn hytrach y pethau sy’n cronni yn eu cyrff,
ac sydd, ynghyd â straenachoswyr eraill, yn dechrau
eu gwanhau. Felly, ie, rwy’n meddwl eu bod nhw’n
enghreifftiau eithaf da o’r dylanwad sydd gennyn ni
ar y dirwedd.
Mae hynna mor ddiddorol,
Felly, os ydych chi’n meddwl am faint o gynefin
sydd wedi cael ei golli dros y degawdau diwethaf,
mae hynny’n cyfrannu at y sefyllfaoedd rydych
chi’n eu hesbonio, yn dydy? Ie, yn bendant. Gwnaethon ni
gynnal astudiaeth yn Efrog Newydd,
lle gwnaethon ni edrych ar glefydau mewn tirweddau
gyda lefelau gwahanol o symleiddrwydd.
Felly, mae hyn yn golygu tirweddau lle mae gennyn ni dir
amaethyddol i bob pwrpas, yn hytrach na
chymunedau blodeuol amrywiol iawn.
Ac un o’r pethau rydyn ni’n ei weld yw
bod ehangder y deiet yn newid yn y tirweddau gwahanol
hyn, a thrwy newid cyfanswm y blodau, neu amrywiaeth
y blodau, mae gwenyn penodol yn ymweld â nhw,
mae hyn yn cael dylanwad ar y clefydau sydd ganddyn nhw
a’r potensial i ledaenu’r clefydau hynny. Felly, mae’r
holl newidiadau rydyn ni’n eu gwneud ar lefel tirwedd
yn cael dylanwad ar iechyd y gwenyn a’r cymunedau
o wenyn, mewn ffyrdd rydyn ni’n dal i geisio
eu deall heddiw. Ac felly, dyna un o’r meysydd
mae fy ymchwil yn edrych arno hefyd.
Felly, a dyma gwestiwn i’r dyfodol efallai, ond
mae diddordeb cynyddol yn y sector
amaethyddol mewn arferion ffermio adfywiol,
yn benodol o ran iechyd pridd.
Felly, mae’n bosibl y gallai hynny
wrthdroi rhai o’r newidiadau hyn sydd wedi digwydd
a bod o fudd i iechyd y gwenyn. Ie, yn bendant.
Rwy’n meddwl bod y math yma o symudiad tuag at
amaethyddiaeth ar raddfa fach a gwella pridd
a’r math yma o beth, yn tueddu i fod o fudd i
beillwyr a bywyd gwyllt yn gyffredinol gan symud
i ffwrdd o ganolbwyntio’n ddwys ar un peth neu un cnwd
ar draws ardal fawr iawn. Rydyn ni’n gweld fwyfwy bod hyn yn
cael dylanwad negyddol ar fywyd gwyllt, ond mae’n golygu
eich bod chi’n dod yn ddibynnol iawn, wyddoch chi, ar
fewnforio gwenyn mêl o wenynwr, neu rywbeth, i helpu
i beillio aceri o dir yn hytrach na’ch bod chi’n ffermio mewn
ffordd wahanol sy’n galluogi symudiad mwy naturiol o
wenyn yn eich caeau ac ar eu traws.
Ie, mae hynna wir yn hynod o ddiddorol.
Felly, mae eich gwaith hefyd wedi edrych ar
y rhyngweithio rhwng rhywogaethau o wenyn gwyllt a gwenyn
sy’n cael eu rheoli a’r potensial i drosglwyddo
clefydau. Felly, pa mor agos mae gwenyn mêl sy’n
cael eu rheoli yn rhyngweithio â gwenyn gwyllt ac
a yw hi’n bosibl i barasitiaid a phathogenau symud o’r
naill i’r llall?
Ie, wel yr ateb cyflym i’r cwestiwn yw bod
pathogenau yn gallu cael eu trosglwyddo rhwng rhywogaethau
gwenyn gwahanol. Dydyn ni ddim yn gwybod yr holl rhywogaethau
gwenyn sy’n cael yr holl firysau a’r clefydau gwahanol, ond
rydyn ni’n gwybod bod y trosglwyddiad hwn yn gallu digwydd.
Yn achos unrhyw flodyn mae set o wenyn wedi ymweld ag ef,
mae’n debygol bydd set arall yn ymweld ag ef hefyd, felly
mae’n bosibl trosglwyddo parasitiaid o wenyn sy’n cael eu
rheoli i wenyn gwyllt ond hefyd o wenyn gwyllt i
wenyn sy’n cael eu rheoli. Felly, rydyn ni’n galw’r mathau hyn o
lwybrau trosglwyddo naill ai yn rhai ‘llifo drosodd’ (‘spill
over’) neu rhai ‘llifo nôl’ (‘spill back’).
Mae tystiolaeth bod y ddau ddull yn bosibl.
Felly, mae hyn yn golygu bod gan wenynwyr
lefel o gyfrifoldeb oherwydd fel gwenynwyr, mae’r
gwenyn mêl yn yr ardal, maen nhw’n tueddu i fod
yn drech na’r gwenyn gwyllt o ran niferoedd. Ac oherwydd
hynny, pan fyddwn ni’n edrych ar y clefyd, maen nhw
hefyd yn cael dylanwad anghymesur ar y clefyd yn y gymuned.
Felly, os ydych chi’n gadael i’r clefyd fodoli yn eich cychod am gyfnod
hir, rydych chi nid yn unig yn cael dylanwad ar iechyd
gwenyn yn y cwch hwnnw, ond ar unrhyw fath o gychod gerllaw
a gallwch gael effaith negyddol ar unrhyw wenyn
gwyllt cyfagos hefyd. Fodd bynnag,
ar yr ochr gadarnhaol, os ydych chi’n rheoli
eich cychod yn dda ac rydych chi’n eu cadw’n
rhydd rhag clefydau, neu’n isel iawn o ran
clefydau, rydych chi’n helpu i leihau’r straenachoswyr
ychwanegol hyn a’u heffaith ar wenyn gwyllt cyfagos,
ac felly, rydych chi nid yn unig yn helpu eich gwenyn
eich hun, rydych chi’n helpu’r gwenyn gwyllt yn
yr ardaloedd hynny hefyd. Felly, mae’n bwysig iawn
eich bod yn cadw eich gwenyn yn iach iawn ac yn rheoli eich
gwenyn yn dda iawn.
Ie, rwy’n credu bod hynny’n bwynt pwysig iawn
mewn gwirionedd, ac rwy’n cytuno â chi, fel
gwenynwr, mae gennyn ni’n bendant
gyfrifoldeb i reoli ein cychod
cystal ag y gallwn ni er mwy atal y ‘llifo drosodd’
hwn. Mae’n debyg mai’r
cwestiwn amlwg yw, oes yna unrhyw bosiblrwydd
y gallai gwenyn gwyllt fod yn gronfa ar gyfer
clefydau fel EFB, ac mai dyna pam ein bod ni o bosibl
yn gweld clwstwr o achosion yn ymddangos yn sydyn
mewn ardal lle nad yw’r clefyd wedi bod yn broblem o’r blaen?
Wel, beth rydyn ni wedi’i weld, ac fe gyhoeddodd
Monika ddarn o waith ar hyn yn gynharach eleni gan
edrych ar duedd ymchwil yn ein dealltwriaeth
o glefydau gwenyn a chlefydau mag, felly’n bennaf, mae’r
rhan fwyaf o’r hyn rydyn ni’n ei wybod am EFB yn ymwneud â’r
wenynen fêl, ac mae hynny’n gwneud llawer o synnwyr.
Felly, dydyn ni ddim wir yn gwybod am unrhyw
rywogaethau gwenyn eraill sy’n dioddef o glefyd
Ewropeaidd y gwenyn, ond mae’n bosibl bod
hynny oherwydd ein bod ni heb edrych neu
mae’n fwy anodd edrych. Rydyn ni’n gwybod amdano
mewn tirweddau eraill, nid yn y Deyrnas Unedig, ond rydyn ni’n
gwybod bod rhai rhywogaethau Apis eraill, er enghraifft
yn Asia, a hefyd rhai gwenyn sydd ddim yn pigo sydd hefyd
yn gymdeithasol, hefyd yn gallu dioddef o’r clefyd.
Ie. Felly, mewn lleoliadau eraill rydyn ni’n sicr
yn gweld bod poblogaethau eraill yn gweithredu
fel cronfeydd, ac fel dywedodd
Pete, dydyn ni ddim o anghenraid yn gwybod
os oes yna gronfeydd yn y Deyrnas Unedig ac mewn
rhywogaethau eraill hefyd. Ie, ac yn sicr
does dim hanner digon o ymchwil wedi cael ei wneud,
i ddeall y cyfeiriad mae’r pethau hyn yn symud. Felly, os yw’r the
microbau yn symud o’r gwenyn mêl i rywogaeth arall, neu i’r
gwrthwyneb, neu rywbeth felly. Dydyn ni
ddim yn gwybod, a dydyn ni ddim yn gwybod unrhyw beth am
gydweddoldeb straeniau nag unrhyw beth felly chwaith. Felly, mae’n
faes mae gwir angen i ni edrych yn fanylach o lawer
arno a gobeithio, yn sgil gwaith Monika,
byddwn yn cael gwell syniad a ydyn ni’n
debygol o weld Melisococcus
mewn rhywogaethau gwenyn eraill yn y Deyrnas Unedig, sy’n rhywbeth nad ydyn
ni’n gwybod llawer amdano.
Ar hyn o bryd,
mae ein dealltwriaeth yn awgrymu bod
Melisococcus yn broblem mewn gwenyn
cymdeithasol yn bennaf neu a ydych chi wedi dod o hyd iddo
mewn gwenyn unig hefyd?
Felly, rwy’n meddwl pan rydyn ni’n chwilio amdano, pan rydyn
ni’n defnyddio’r technegau moleciwlaidd hyn,
ac rydyn ni’n chwilio am DNA sy’n benodol
i Melisococcus, neu unrhyw glefyd mewn gwirionedd
pan fyddwn ni’n defnyddio’r technegau
hyn, dydy’r ffaith bod y DNA hwnnw’n bresennol ddim
yn dweud wrthon ni bod yna haint.
Felly, dyw hi ddim yn bosibl i ni ddweud ar y pwynt hwn bod
gwenyn eraill wedi’u heintio â
Melisococcus neu glefydau’r mag eraill.
Felly, yr hyn mae Monika wedi bod
yn ei astudio, ar hyn o bryd, yw edrych i
weld a allwn ni ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth
y tu hwnt i wenyn mêl, a bod y clefyd yn
teithio. A dydw i ddim yn meddwl ein bod ni
wedi cyrraedd y pwynt yna yn ei
data hi eto ond, Monika, cywira fi os ydw i’n anghywir, lle
gallwn ni ddweud fod
tystiolaeth o Melisococcus
tu hwnt i wenyn mêl ar y pwynt yma.
Ond dyna un o’r meysydd rydyn ni’n
edrych arno. Wyddoch chi, misoedd oer
y gaeaf yw’r misoedd perffaith i wneud
gwaith moleciwlaidd yn y labordy. Felly,
ar yr adegau pan nad yw Monika wedi bod yn rhewi
i farwolaeth ar y tiwb, mae hi wedi bod yn
gwneud llawer o waith gyda’r pipette yn y labordai
moleciwlaidd yn ceisio canfod rhai o’r atebion hyn,
er mwyn i ni allu gweld a oes tystiolaeth
o symudiad.
Monika, mae rhai pobl yn credu
os yw cytref gwenyn mêl
yn dioddef o glefyd, yna mae’n
mynd i farw.
Felly, mae cytrefi gwyllt a allai fod
yn dioddef o EFB yn tueddu i farw
a dydyn nhw ddim yn ffynnu. Fyddech chi’n
cytuno â hynna, neu ydych chi’n credu gall y clefyd hwn
fodoli’n dawel bach gan ddal i fod yn broblem bosibl?
Mae hynna’n gwestiwn gwych ac rwy’n credu
bod yr ateb ychydig yn fwy cymhleth nag y byddai’r
rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl gan fod mwy
o gysylltiad â detholiad naturiol o
bathogenau penodol a allai fod yn llai firwlaidd,
er enghraifft, cael eu ffafrio mewn lleoliadau naturiol,
ond mae’n dibynnu llawer hefyd ar
ba fath o rywogaethau o wenyn rydyn ni’n edrych arnyn nhw. Felly,
gallai nodweddion gwahanol gael eu ffafrio mewn
rhywogaethau cymdeithasol a phathogenau rhywogaethau
cymdeithasol, na phathogenau rhywogaethau
unig, oherwydd, er enghraifft,
mae AFB yn enghraifft wych o hyn gan
ei fod yn achosi symptomau sylweddol ar lefel y
gytref, ar lefel unigol,
ond mae hynny’n golygu ar lefel y gytref gallwch
ddatblygu ymatebion fel ymddygiad hylan i
gael gwared arno. A gallai rhai gwenyn
esblygu’r ymddygiadau hyn ond hefyd,
efallai na fydd rhai gwenyn yn eu hesblygu.
Felly mae’n gyfuniad cymhleth o
esblygiad ar lefelau gwahanol,
o safbwynt yr organeb letyol
a’r pathogenau. Felly, dydw i ddim mor siŵr mai
dweud peidio â chael gwared ar y
pathogen yw’r ateb gorau oherwydd
yn y pen draw, mae hynny’n gosod llwyth
trymach ar y dirwedd ac yn ei gwneud yn fwy tebygol
y bydd y pathogen yn ffynnu. Felly, rydych chi’n
rhoi mwy o bwysau hefyd ar boblogaethau
naturiol sydd â phob math o straenachoswyr eraill
mae’r pathogen yn rhyngweithio â nhw. Felly, os yw eich
cynefin wedi cael ei ddiraddio ac yna
rydych chi’n dod i gysylltiad â phathogen ac yn gorfod
delio â hwnnw, yna ie, efallai mai dyna fyddai’r peth
naturiol i ddigwydd, sef eich bod chi’n marw’n raddol. Ond
dydy hynny ddim yn golygu o anghenraid mai dyna’r
peth gorau i ddigwydd o ran cynnal tirwedd iach.
Ac mae’n ddiddorol hefyd eich clywed chi’n cyfeirio at
bwnc ymddygiad hylan.
Nawr, bydd gwenynwyr yn gyfarwydd ag ymddygiad
hylan o safbwynt varroa, ond mae’n ddiddorol eich clywed
chi’n ei ddefnyddio mewn perthynas â chlefydau eraill.
Felly, allwch chi sôn ychydig bach mwy am
sut gall gwenyn reoli’r clefydau
hyn eu hunain drwy eu hymddygiadau
hylan?
Ie, wel mae cael gwared ar unigolion
heintus yn sicr yn un tric defnyddiol
gan y gwenyn, ond mae’n dibynnu hefyd
ar y math o glefyd dan sylw.
Er enghraifft, yn achos EFB, yn anffodus
dydyn ni ddim yn gwybod am unrhyw
wenyn sydd wedi esblygu’r ymddygiad yma
yn naturiol ac mae’n debyg mai un
rheswm dros hynny yw bod y clefyd yn ei
gamau cynnar iawn. Felly, mae AFB hefyd
yn glefyd sy’n effeithio ar wenyn, ond o leiaf mae’r symptomau
yn datblygu ychydig yn nes ymlaen, felly
mae’n rhoi ychydig mwy o amser
i’r gytref ymateb iddo.
Ac mae llawer o bethau dydyn ni
ddim yn eu deall o ran beth yn union
mae’r gytref yn sylwi arno er mwyn
targedu’r unigolion hynny sydd
wedi’u heintio. Felly, mae’n bosibl eu bod nhw’n
arogli’n wahanol, neu efallai bod rhai
cyfansoddion ar arwyneb y gwenyn
sydd wedi’u heintio ac mae’r
gwenyn maeth yn gallu eu harogli pan maen
nhw’n eu bwydo? Felly, mae yna lawer
o bethau dydyn ni ddim yn eu gwybod
ond yn sicr mae’n faes
diddorol dros ben.
Ydy wir. Mae’n hynod o ddiddorol a bydden
i’n gallu eistedd yma a siarad â’r ddau
ohonoch chi drwy’r dydd am hyn. Mae hi wedi bod
yn sgwrs wirioneddol ddiddorol a defnyddiol
iawn, felly diolch yn fawr iawn i’r ddau
ohonoch chi am gymryd rhan. Yn sicr, mae’n
ymddangos bod dyfodol iechyd ein
gwenyn mêl mewn dwylo diogel ar
hyn o bryd.
Diolch am ein gwahodd, mae wedi bod yn wych.
Ie, diolch i chi am y gwahoddiad. Roedd yn
sgwrs wych.